Mae’r gwanwyn wedi ein cyrraedd o’r diwedd yma yn y Nant gyda’r sioe flynyddol o gennin Pedr rhwng y Plas a Chaffi Meinir yn werth ei weld!
Gyda dyfodiad y gwanwyn, mae tymor y priodasau hefyd yn ail gydio ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pob un pâr yma i’r Nant i ddathlu ei diwrnod arbennig yn ystod y flwyddyn.
Pleser oedd croesawu Sefydliad IAGSA, sef The Institute of Agricultural Secretaries and Administrators, yma i’r Nant yn ystod mis Mawrth. Roedd y sefydliad yn cynnal eu cynhadledd flynyddol yma yn y Nant a braf oedd gweld cynifer o bobl o fyd amaeth yn ymweld â’r pentref o bob cwr o Brydain.
Rhwng Ionawr a Mawrth 2018 cynhaliwyd 16 o gyrsiau Cymraeg Gwaith, dau yng Nghaerdydd, tri yn Aberteifi a’r gweddill yma yn y Nant. Mynychodd staff o ystod eang o weithleoedd y cyrsiau, megis Esgobaeth Bangor, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cynghorau Sir, Canolfan y Mileniwm, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Heddlu Gogledd Cymru a llawer mwy. Buom yn ymweld â sawl cwmni a sefydliad lleol megis Bragdy Cwrw Llŷn, Cwt Tatws, Eglwys Beuno Clynnog Fawr, Glynllifon, Cyngor Gwynedd, Felin Uchaf, Sain Llandwrog a Phlas Hafan Nefyn. Cafwyd prynhawniau difyr yng Nghaernarfon (gyda theithiau tywys gan Rhys Mwyn), ym Mhwllheli ac yn Aberdaron. Cynhaliwyd amryw o weithgareddau gyda’r nos. Cafwyd nosweithiau arbennig yng nghwmni Edwards Morus Jones, Gwilym Bowen Rhys, Elidyr Glyn a Gethin Fôn a Glesni Fflur. Yn ogystal, buodd Geraint ‘Benji’ Williams yn arddangos ei dylluanod, Paul Eds y dewin yn diddanu, Llion Williams yn rhoi sioe un dyn am hanes yr iaith a chafwyd sgyrsiau difyr am hanes y Nant gan John Dilwyn. Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith cyntaf bellach wedi dod i ben ac mae’n diolch yn fawr i’r holl bobl fu’n cefnogi’r cyrsiau boed hynny drwy ymweliadau neu adloniant gyda’r nos a hefyd i’r holl diwtoriaid fu’n cynnal y dysgu. Bu adborth y cyrsiau yn galonogol iawn, gyda’r mwyafrif o’r mynychwyr yn mynegi’r awydd i ddychwelyd i’w gweithleoedd i ddefnyddio mwy ar eu Cymraeg a hynny gyda mwy o hyder na chynt. Gobaith sawl un hefyd oedd dychwelyd i’r Nant ar gwrs arall. Yn ystod y misoedd nesaf, edrychwn ymlaen at groesawu mwy o weithleoedd i’r Nant wrth i’r ail gynllun Cymraeg Gwaith fwrw yn ei flaen.