Parhau i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Parhau i gynnig cefnogaeth i ddysgwyr

Er bod drysau’r Nant ar gau a’r cyrsiau addysg dros y misoedd nesaf wedi’u gohirio, mae’r Tîm Addysg wrthi’n brysur yn treialu dulliau newydd o ddysgu a chefnogi dysgwyr, gan barhau i weithio tuag at y nod o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Eglurodd Rhodri Evans, Rheolwr Addysg y Nant: “Ers canol mis Ebrill, mae’r adran wedi bod yn treialu gwasanaeth ar-lein un-i-un rhwng tiwtor a dysgwyr, gan gysylltu’n uniongyrchol gyda dysgwyr oedd wedi eu heffeithio o ganlyniad i’r penderfyniad i ohirio’r cyrsiau.

“Mae’r adborth cynnar yn addawol a bydd y gwasanaeth yn cael ei ddatblygu ymhellach dros yr wythnosau nesaf, gan roi cyfle i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg a thrafod agweddau penodol gyda’r tiwtoriaid.”

Yn ddiweddar, mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi mwy o fanylion ynghylch cwrs newydd i ddechreuwyr fydd yn cael ei gynnal yn llwyr ar-lein, gydag elfennau dysgu annibynnol yn rhan greiddiol o’r cwrs. Bydd tiwtoriaid Nant Gwrtheyrn yn gyfrifol am ddysgu dosbarthiadau o ddysgwyr newydd fel rhan o’r cynllun newydd hwn. Drwy gyd-weithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, bydd tiwtoriaid y Nant yn derbyn hyfforddiant arbenigol a fydd yn cyfrannu at eu datblygiad personol fel tiwtoriaid ac at ddatblygiad darpariaeth gynhenid Nant Gwrtheyrn wedi i’r cyfnod ansicr hwn ddod i ben.

feeb