Pen-blwydd Hapus Nant Gwrtheyrn!

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Pen-blwydd Hapus Nant Gwrtheyrn!

Mae’r Nant yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn eleni. Mae’r freuddwyd fawr o drawsnewid hen bentref chwarelyddol yn ganolfan iaith flaengar bellach yn ffaith. Gyda’r Nant wedi croesawu dros 30,000 o ddysgwyr ers 1982 a bellach yn cyflogi 37 o bobl leol, mae’r weledigaeth wreiddiol honno o greu ‘Peiriant Cymreigio a darparu gwaith yn lleol’ yn sicr wedi’i gwireddu.

I nodi’r garreg filltir arbennig hon, cynhaliwyd ‘Gŵyl y Nant – Dathlu 40’ yn ystod mis Medi. Ar nos Fawrth, Medi 18, cynhaliwyd Ras Rhys a Meinir ar gyfer oedolion a Ras Elis Bach ar gyfer plant. Rasys traws gwlad oedd y rhain gyda’r plant yn rhedeg am y goedwig ac o amgylch y pentref a’r oedolion yn rhedeg i fyny’r llwybr beicio i dop yr allt, croesi am Ciliau ac yn ôl ar hyd y llwybr arfordir – tipyn o her! Llongyfarchiadau mawr i bawb a gymerodd ran!  

    

Roedd y pentref yn llawn bwrlwm brynhawn Sadwrn, Medi 22ain. Lansiwyd arddangosfa yn olrhain hanes y datblygiadau rhwng 1978 a heddiw yng nghapel Seilo. Cafwyd darlith ddifyr iawn gan Yr Athro Jason Walford Davies yn trafod y gerdd Nant Gwrtheyrn gan R. S. Thomas. Bu’r plant yn brysur iawn yn creu cacen grefft enfawr, dan arweiniad Gwenda Williams, i nodi’r pen-blwydd. Roedd y gacen werth ei gweld ac fe’i cyflwynwyd hi i Carl Clowes a gweddill yr ymddiriedolwyr yn ystod derbyniad arbennig yn hwyrach yn y prynhawn. 

    

Roedd y derbyniad yn gyfle i hel atgofion ac i ddiolch i bawb am eu cyfraniad dros y blynyddoedd. Dywedodd Carl Clowes, Llywydd a Sylfaenydd y Nant, bod “Nant Gwrtheyrn wedi cyflawni’r nodau gwreiddiol o greu gwaith a sicrhau dyfodol i’r iaith ar wefusau rhai miloedd o Gymry. Trwy hyn mae hyder yr ardal a’r ymwybyddiaeth o werth y gymuned Gymreig wedi codi yn sylweddol. Mae’r ymdrech genedlaethol wedi bod yn werth-chweil a hoffwn ddiolch i bawb a fu wrthi yn ddygn i sicrhau’r llwyddiant sydd i’w gael heddiw. Hir oes i’r Nant am y 40 mlynedd nesaf!”

  

Ar ôl tair blynedd ar ddeg fel cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, mae Jeffrey Williams Jones yn ymddeol ac yn ystod y derbyniad fe drosglwyddwyd y gadeiryddiaeth i Huw Jones. Dywedodd Jeff ei fod yn “Edrych ymlaen at gyfnod newydd o dan arweiniad Huw gyda’i holl brofiad llwyddiannus o reoli a chadeirio.” Yn ôl cadeirydd newydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn, “Mae’r cynnydd y sydd wedi digwydd yn y Nant yn ystod cyfnod Jeff wrth y llyw wedi bod yn rhyfeddol. Mae’r seiliau bellach yn gadarn ac mae lle arbennig i’r Nant yn y gwaith o gynyddu nifer y rhai sy’n siarad Cymraeg. Rydw i’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r tîm i barhau i wireddu’r weledigaeth ryfeddol sydd wrth wraidd Nant Gwrtheyrn heddiw.” Dywedodd Mair Saunders, Prif Reolwr Nant Gwrtheyrn, ei bod yn “edrych ymlaen at ddatblygu ac adeiladu ar y seiliau cadarn hyn sydd wedi eu sefydlu yn ystod cyfnod Jeff fel cadeirydd yr Ymddiriedolaeth arbennig hon.’’  

Uchafbwynt y dathlu oedd y gig ar y nos Sadwrn, wrth gwrs! Roedd hi’n noson wefreiddiol gyda pherfformiadau gwych gan Gethin a Glesni, Gwilym Bowen Rhys, Patrobas, Geraint Lovgreen a’r Enw da, Alys Williams a Band Pres Llareggub! Diolch i bawb ddaeth i ymuno â ni yn ystod y dathliadau a Byw Fyddi Nant Gwrtheyrn!

feeb