Mae Carl Foulkes wedi defnyddio ei wyliau blynyddol o’i swydd bresennol fel Dirprwy Brif Gwnstabl ar Lannau Mersi i ymgymryd cwrs dwys yng Nghanolfan Nant Gwrtheyrn.
Dywedodd Meic Raymant, Pennaeth Gwasanaethau Iaith Gymraeg Heddlu Gogledd Cymru: “Roedd yn dda gweld fod y Prif Gwnstabl newydd wedi gallu mynychu cwrs preswyl yng Nghanolfan Iaith Nant Gwrtheyrn, yn ei amser ei hun, cyn cychwyn ei rôl.
“Crëwyd rhaglen dysgu Cymraeg iddo yn dilyn ei benodiad. Roedd yn cynnwys yr opsiwn am gwrs preswyl byr ar gyfer dechreuwyr newydd hefyd. Roedd yn awyddus iawn i wneud hyn.
“Mwynhaodd Mr Foulkes ei gwrs yn y Nant yn fawr. Mae’n wych gweld ei ymroddiad i ddysgu Cymraeg a bydd yn datblygu ei sgiliau Cymraeg ymhellach drwy’r cymorth hyfforddiant iaith ychwanegol a wnawn ei ddarparu yn y gweithle.”
Yr wythnos flaenorol, fel rhan o’r fenter Cymraeg Gwaith, aeth 12 o weithwyr Heddlu Gogledd Cymru fynd ar gwrs preswyl yn Nant Gwrtheyrn, o dan nawdd Llywodraeth Cymru.
Ychwanegodd Mr Raymant: “Mae’n bwysig ein bod yn rhoi cyfleoedd i’n staff sydd ddim yn siarad Cymraeg yn rhugl i ddatblygu eu sgiliau Cymraeg a’u hyder i’w defnyddio wrth ymdrin ag aelodau o’r cyhoedd a chydweithwyr sy’n siarad Cymraeg.
“Mae’r Heddlu wedi datblygu ei ddarpariaeth hyfforddiant Cymraeg yn y gweithle ar gyfer y diben hwn. Fodd bynnag, rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd ychwanegol i’w cynorthwyo i symud ymlaen ymhellach. Mae’r cyrsiau Cymraeg preswyl ‘Cymraeg Gwaith’ wedi rhoi cyfle i rai staff sydd eisoes wedi dysgu rhywfaint o Gymraeg i ddatblygu eu sgiliau ymhellach ar gwrs dwys gyda hyfforddiant gwych.
“Mae’n amlwg o siarad gyda rhai o’r rhai hynny a aeth i’r cwrs eu bod wedi elwa o’r cyfle hwn ac yn teimlo’n fwy hyderus i ‘roi cynnig ar y Gymraeg’ pan yn y gwaith.”