Prif Weinidog Cymru’n agor canolfan eiconig yn y Gogledd

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Prif Weinidog Cymru’n agor canolfan eiconig yn y Gogledd

Agorwyd Ganolfan Nant Gwrtheyrn yn swyddogol gan Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones. Mae hyn yn dilyn gwaith ailwampio sylweddol a wnaed i drawsnewid y ganolfan yn ganolfan dwristiaeth unigryw.

Gwnaed gwaith adnewyddu gwerth £5m i’r pentref chwarel hwn o oes Fictoria. Mae yma lety 4 seren, ffordd fynediad newydd, stafell ar gyfer cynnal cynadleddau, priodasau a digwyddiadau eraill, yn ogystal ag arddangosfeydd treftadaeth newydd sy’n cynnwys tŷ o 1910.

Meddai’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, yn yr agoriad:

Mae Nant Gwrtheyrn yn ganolfan o arwyddocâd cenedlaethol a rhyngwladol, a hefyd yn gyflogwr lleol pwysig. Bydd y cyfleusterau newydd yn denu llawer iawn mwy o ymwelwyr dydd, twristiaid ac ymwelwyr lleol i ddysgu a mwynhau ei leoliad unigryw, gan ddod â manteision economaidd sylweddol i’r ardal.

“Mae Canolfan Nant Gwrtheyrn wedi datblygu seiliau cadarn iawn yn y byd ‘dysgu Cymraeg’. Mae’r buddsoddiad yn galluogi i’r busnes a’u holl adnoddau newydd arwain at ddyfodol llewyrchus iawn i’r Nant, ac mae hyn yn bennaf yn sgil adnewyddu’r hen fythynnod.”

“Rwy’n falch iawn bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gallu buddsoddi £3.8m yn y gwaith o adnewyddu. Mae’n bwysig iawn bod Nant Gwrtheyrn yn mynd o nerth o nerth a bod nifer o ffynonellau i gynnal eu hincwm trwy gydol y flwyddyn. ”

Meddai Carl Clowes, sylfaenydd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn:

“Mae rhoi bywyd newydd i’r pentref yn hwb mawr i gyflogaeth a hyder lleol. Yn bwysig iawn, mae gennym bellach gyfleuster lleol a chenedlaethol i ddysgwyr Cymraeg ac atyniad i ymwelwyr preswyl a dydd sydd o’r ansawdd gorau posib.”

feeb