Description
Mae aelodaeth Cyfeillion Nant Gwrtheyrn yn eich galluogi i dderbyn gostyngiad ar wahanol wasanaethau yn Nant Gwrtheyrn.
Am bris bychan blynyddol, byddwch yn derbyn gostyngiad o 20% oddi ar bob cwrs, 15% yng Nghaffi Meinir, 15% oddi ar lety, a 15% oddi ar docynnau unrhyw ddigwyddiad ar gyfer hyd at 4 person yn unig.
Byddwch hefyd yn derbyn newyddlen chwarterol gyda’r diweddaraf o’r Nant a gwybodaeth am unrhyw gynigion arbennig eraill. Byddwch hefyd yn derbyn gwahoddiad i Gyfarfod Blynyddol Nant Gwrtheyrn a chyfrannu tuag at gynlluniau’r dyfodol.