Y diweddaraf ynglŷn â’r Coronafeirws (COVID-19)

Siop y Nant

Machlud y lleuad

Nant Gwrtheyrn > Cynnyrch > Printiau > Machlud y lleuad

Machlud y lleuad

£24.25

Categori

Disgrifiad

Yn dangos y lleuad uwchben yr hen offer ar draeth Porth y Nant.

Maint: A4 wedi’i fowntio, llun yn 9″ x 6″

Mae The Llŷn Collection™ yn gyfres o luniau argraffiad cyfyngedig a ysbrydolwyd gan harddwch naturiol Pen Llŷn. Mae’r argraffiad cyfyngedig hwn, sydd o’r safon orau, yn atgynhyrchiad dan hawlfraint o’r llun gwreiddiol, ac mae wedi cael ei lofnodi a’i rifo gan y ffotograffydd.

Mae pob llun wedi cael ei argraffu gan ddefnyddio inciau pigment UltraChrome proffesiynol ar bapur Hahnemuhle Photo Pearl 310 gsm, ac mae nifer y copïau wedi cael eu cyfyngu i 150 ledled y byd.

Mae Nigel yn arbenigo mewn delweddau o’r nos a delweddau sy’n seiliedig ar seryddiaeth. Gartref gyda’i dad, mewn ystafell dywyll, y dechreuodd ei ddiddordeb mewn ffotograffiaeth, a chyneuwyd ei ddiddordeb mewn seryddiaeth ar ôl iddo wylio’r glaniad cyntaf ar y Lleuad yn 1969.

Etholwyd Nigel yn Gymrawd y Gymdeithas Seryddol Frenhinol yn 2013 am ei wasanaethau i Astroffotograffeg.

Basged