Disgrifiad
Mae’r gyfrol hon yn adrodd hanes chwech o fentrau cymunedol cydweithredol. Gan ddechrau gyda hanes y Moto Coch, cawn hanes sefydlu siop (Llithfaen), garej (Clynnog fawr), tafarn (Y Fic, Llithfaen), canolfan waith (Antur Aelhaearn) a chanolfan iaith (Gwrtheyrn) – i gyd o fewn ychydig filltiroedd i’w gilydd.