Disgrifiad
UN O WERTHWYR GORAU CYNGOR LLYFRAU CYMRU! Hydref 2016
Dr Carl Iwan Clowes – meddyg, Is-gennad, gwladgarwr ac entrepreneur cymdeithasol.
Symudodd Carl Clowes o’i swydd arbenigol ym Manceinion i bractis un dyn yn Llyn yn 1970 er mwyn i’r teulu gael eu magu mewn cymuned wledig a Chymraeg. Yno y gwelodd gymuned â’i phoblogaeth yn dirywio ac iechyd y fro yn dioddef.
Arweiniodd sawl datblygiad i geisio gwyrdroi y sefyllfa gan gynnwys Antur Aelhaearn a Chanolfan Nant Gwrtheyrn a bu’n ymladdwr cyson dros y Gymraeg. Mi symbylodd yr efeillio rhwng Cymru a Lesotho a sefydlu Dolen Cymru. Yn gyn-Ymgynghorydd yn y Gwasanaeth Iechyd, mae hefyd wedi gweithio yn Siberia, Cambodia ac India.
Mae wedi derbyn sawl anrhydedd yn cynnwys y Wisg Wen gan Orsedd y Beirdd. Mae’n briod â Dorothi ac mae ganddyn nhw bedwar o blant – Dafydd, Rhiannon, Angharad a Cian.
Adolygiadau:
“Wedi ei mwynhau yn arw. Llawn straeon difyr……..Yr arddull yn ddifyr a darllenadwy iawn……..lluniau da iawn hefyd!” – Angharad Tomos
“Mae Carl yn gweld yn bell, adnabod angen ac yna yn cynllunio ar gyfer diwallu’r angen er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Mae’n berson penderfynol yn meddu ar rhyw wytnwch rhyfeddol a dyfalbarhad sy’n ei gynnal wrth gael y maen i’r wal. Mae Carl wedi cyflawni mewn oes yr hyn fyddai wedi cymryd deg person arall ei wneud, ac mae ganddon ni ddyled anferthol iddo fel cenedl am hynny.” – Dafydd Idris, Papur Mena.