Profiad athrawes iaith o fod yn fyfyriwr gan Theresa Munford

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Profiad athrawes iaith o fod yn fyfyriwr gan Theresa Munford

Profiad athrawes iaith o fod yn fyfyriwr
gan Theresa Munford

Dwi ddim yn meddwl bod gen i unrhyw waed Cymreig yn fy ngwythiennau, a dw i ddim yn byw yng Nghymru chwaith. Mae’n debyg mai cyfeillgarwch a digwyddiad ar hap yw’r ffordd orau o ddisgrifio fy nhaith i ddechrau dysgu’r iaith Gymraeg.

Dwi wastad wedi caru ieithoedd: Mi nes i astudio Ffrangeg, Almaeneg a Sbaeneg yn yr ysgol a Tsieinëeg yn y Brifysgol, gan ddewis gyrfa fel athrawes Mandarin mewn ysgolion Uwchradd yn y pendraw. Yn aml mae athrawon iaith yn cael eu cynghori i ddysgu iaith sydd yn hollol newydd iddyn nhw. Yn 2012, nes i symud i Bath a sylweddoli bod byd Cymraeg hollol newydd yn bodoli ychydig i lawr yr M4.

Tua’r un amser, mi nes i ailgysylltu gyda hen ffrind i fi o’r chweched dosbarth, roedd hi hefyd wedi treulio ei bywyd yn dysgu ieithoedd fel athrawes. Roedd ganddi hi rai gwreiddiau Cymraeg, ond bron dim gwybodaeth o’r iaith. Felly, dyma ni’n penderfynu ddechrau’r antur efo’n gilydd a chofrestru i fynychu cwrs blasu undydd yng Nghaerdydd. Roedd yr awr gyntaf yn gywilyddus! Sut bod y ddwy ohonom mor araf yn dysgu mewn cymhariaeth a’r lleill? Yn ystod yr amser paned, mi wnaethom ddeall bod ni wedi ymuno efo’r dosbarth lefel canolradd mewn camgymeriad. Ond fel athrawon, roeddem wedi dysgu un wers werthfawr yn barod… sut deimlad yw bod ar waelod y dosbarth a sut mae myfyrwyr sy’n ei chael hi’n anodd yn cuddio hyn!

Gan beidio gadael i’r profiad roi stop ar ein hawydd i ddysgu, blwyddyn yn ddiweddarach mi wnaethom gofrestru ar gyfer cwrs wythnos i ddechreuwyr yn Nant Gwrtheyrn. O’r foment daeth y tacsi a ni i lawr yr allt i’r cwm a setlo yn ein bwthyn bach, roeddem yn gwybod ein bod ni am gael wythnos arbennig iawn. Roedd hi’n wythnos hudolus mewn lleoliad hudolus. Y cwm, y traeth, y cwmni, y gemau Scrabble Cymraeg, y consuriwyr a’r prynhawn hwyliog yn sgwrio ac ymarfer ymadroddion syml ymhlith pobl dda Pwllheli. O safbwynt athrawon, gwnaethom ryfeddu at y dulliau dysgu rhagorol, cydbwysedd perffaith o her, mwynhad a dysgu’r gweithredol. Fe wnes i ychwanegu llawer o driciau newydd at fy manc dysgu fy hun, er, yn anffodus, nid oes gan ddisgyblion ysgol yr un diddordeb ag sydd gan oedolion brwdfrydig sy’n awyddus i ddysgu.

Mae yna lawer o agweddau o’r Gymraeg yn anodd iawn i mi. Dw i erioed wedi bod yn un sy’n dda iawn am sillafu yn Saesneg ac nid yw sillafu yn y Gymraeg wedi bod yn hawdd, er, o leiaf (yn wahanol i’r Saesneg) mae rhesymeg i’r ffoneg. Roedd strwythur brawddegau, yn enwedig gyda berfau, hefyd yn faen tramgwydd enfawr ar y dechrau. Ond mae’r anawsterau hyn yn cael eu cydbwyso gan y pethau dw i’n eu caru am yr iaith – er enghraifft, yr eirfa ryfeloedd heterogenaidd sy’n ffurfio bron i gystrasau (ambiwlans, smwddio) i’r eirfa sy’n cael ei rhannu gyda’r Lladin (llyfr) a’r geiriau unigryw hyfryd. Yn rhyfedd, fel siaradwr Tsieinëeg, mae ambell beth yn haws oherwydd ei fod mor debyg i Tsieinëeg…. er enghraifft, y ffordd mae rhifau yn gweithio a’r ffaith bod mwy nag un ffordd o ddweud ‘ia’ neu ‘na’.

Ers yr wythnos honno yn y Nant, dwi wedi parhau i ddysgu gyda Say Something in Welsh a Duolingo yn ddyddiol – ac wrth i’r dysgu cynyddu’n ddyddiol (686 diwrnod hyn yn hyn), y mwyaf dwi’n poeni mod i am anghofio bod fy ngornest gyda’r dylluan fach werdd am ddisgyn yn ôl i ddim. Chefais ddim y cyfle i ddychwelyd i’r Nant. Fe wnaeth Covid ein cyfyngu i gyd, felly daeth Nant Gwrtheyrn i fy nghartref! Dim traeth, dim cwm, ond cwrs tebyg iawn o safbwynt safon y dysgu rhagorol a llawer o hwyl yn rhyngweithio a dysgu gyda’r myfyrwyr eraill. Dwi’n gobeithio dilyn y cwrs nesaf yn fuan, gan obeithio dod draw i’r cwm hudolus mor fuan ag y gallwn ni.

O safbwynt bod yn athrawes sy’n dysgu iaith, mae’r profiad wedi helpu fi ddeall fy myfyrwyr yn llawer gwell. Dwi’n gallu uniaethu gyda’u rhwystredigaethau a theimlo eu gwefr. Dwi’n cael teimlad gwych wrth ddeall brawddeg gyfan ar Radio Cymru, er bod 90% o’r cynnwys dal yn ddieithr i fi. Y nod i fi (heblaw am allu cynnal sgwrs gyda pherson yn y Gymraeg) yw gallu darllen a gwerthfawrogi barddoniaeth Gymreig. Mae enw da’r iaith Gymraeg fel un o’r ieithoedd barddonol gorau yn y byd yn beth arall y mae’r iaith yn ei rannu â Tsieinëeg.

feeb