Sgwrsio yng nghwmni dysgwyr Nant Gwrtheyrn
gan Alun Jones
Mae ymweld â’r Nant i sgwrsio â’r dysgwyr yn dal yn bleser pur. Pam?
Wel, yn gyntaf, gan fod cyfle i sgwrsio â dysgwyr mor ddiddorol o bedwar ban byd. Rwyf wedi cadw cysylltiad â nifer ohonynt ar hyd y blynyddoedd, gan y byddaf yn gweithio ym mhabell Y Lolfa yn yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Galwant heibio am sgwrs, nifer ohonynt wedi hen feistroli’r Gymraeg erbyn hyn, ac yn ddieithriad byddant yn holi pa lyfrau sydd yn werth eu darllen.
Gan eu bod mor niferus, gwell peidio â’u henwi, er gallaf gyfeirio at Carolyn Hodges. Daw o Swydd Buckingham yn wreiddiol a dysgodd Gymraeg pan oedd yn Rheolwr Olygydd yn Oxford University Press a bu’n fynychwr cyson ar gyrsiau Nant Gwrtheyrn. Cafodd gyfweliad am swydd golygydd Saesneg yn y Lolfa gan fynnu cael ei chyfweliad yn y Gymraeg. Y rheswm dros symud? Roedd am gael mwy o gyfle i siarad Cymraeg ac mae bellach wedi ymsefydlu yn hapus braf yn Y Lolfa ac yn ardal Aberystwyth. Syniad Carolyn oedd y dylai’r dysgwyr roi cildwrn i dalu am ginio Nadolig i ni’r gwirfoddolwyr bob blwyddyn i ddiolch am y sesiynau sgwrsio.
Mae’n naturiol ’mod i’n gwirfoddoli. Athro Cymraeg fel ail iaith y bûm yn ystod fy neng mlynedd gyntaf o ddysgu a hynny yn bennaf yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn Pontypridd. Roeddwn hefyd yn un o’r chwech a dorrodd ei enw ar y ddogfen i brynu pentref Nant Gwrtheyrn o dan gapteniaeth Carl Clowes yn 1978. Yn dilyn hynny, trefnais ac arwain un o’r cyrsiau wythnos gyntaf yn yr unig dŷ a oedd wedi ei adnewyddu yn y Nant ar y pryd. Wythnos o gyd-fyw, o gyd goginio ac o gyd ddysgu o dan yr un to am wythnos a threulio gyda’r nos yn sŵn y generadur y tu allan cyn i drydan gyrraedd y Nant. Roedd hynny cyn bod ffordd i lawr i’r Nant ac ar hyd y gefnffordd y daethom yno yng nghefn hen Ffergi fach. Dyddiau diddorol.
Does dim rhyfedd felly ’mod i’n dal i fwynhau troedio i lawr i’r Nant ar brynhawn Mercher i hel atgofion am yr hen ddyddiau, ond yn bwysicach i sgwrsio a dod i nabod dysgwyr newydd.
I gloi, dyma awgrymiadau o dair cyfrol i ddysgwyr ddarllen:
- Inc gan Manon Steffan Ros yn y gyfres Stori Sydyn: Lolfa
- Mwy heriol: Llyfr Glas Nebo, Manon Steffan Ros: Lolfa
- Dysgwyr uwch: O! Tyn y Gorchudd, Angharad Price: Gomer