Shani ar y mynydd
gan Shân Gwenfron Jones
“Trwy feistroli sylwedd mynydd y gellid treiddio i ddyfnaf ei ysbryd.”
Wel, dros bum wythnos i mewn i’r cyfnod clo a dwi’n dechrau teimlo hiraeth am y mynyddoedd. Yn enwedig un mynydd arbennig, Moel Eilio. Fy hoff fynydd yn wir. Copa hyfryd yn edrych i lawr ar bentref bach Waunfawr yn Sir Gaernarfon. Er nad yw’n un o’r cewri o ran uchder o’i gymharu â chopaon eraill Eryri, mae’n gopa o safon. Mae’r olygfa o’i gopa yn ogoneddus ac yn un o’r goreuon (ym marn Shani – pawb a’i farn a phawb a’i gopa!)
Ar fy nhaith ddiwethaf i ben y mynydd fe gefais y pleser o weld un o redwyr mynydd profiadol Eryri, Dafydd Whiteside Thomas. Roedd Mr Thomas neu Thomas Geog yn gyn-athro Daearyddiaeth arnaf. Does gen i ddim byd ond parch at y dyn yma. Bu’n rhedeg y copaon ers blynyddoedd gan haeddu gwisgo ei grys Eryri Harriers. Brid arbennig o unigolion sy’n dal ati ac sy’n haeddu parch mawr. Mae Dafydd yn troedio llethrau Moel Eilio yn wythnosol gan ei gwblhau faint bynnag ei oed bob blwyddyn. Dyn anhygoel. Wrth i ni sgwrsio ar y mynydd dywedodd Dafydd ei fod yn cofio rhedeg ras Nant Gwrtheyrn yn y 70’au. Roedd sawl ras debyg dros Gymru i godi arian tuag at bryniant y pentref bryd hynny. Ras heriol iawn, medda fo ond golygfeydd godidog yr holl ffordd o gwmpas! Mae’r rheini dal yno. Mae Ras Rhys a Meinir wedi cael ei chynnal yn ddiweddar er mwyn ail greu’r ras a chynnig cyfle i redwyr lleol presennol fwynhau’r dirwedd heriol.
Dw i’n dod ar draws llawer un ar Foel Eilio ond y bore hwnnw pwy welais ond un o fy nysgwyr yn fras gamu gyda’i chi Fig a gwen fawr o glust i glust. Moel Eilio yw hoff fynydd Eve hefyd. Bu ar gwrs Mynediad 1 llynedd ac mae hi’n parhau i siarad Cymraeg yn ddyddiol. Mi gawsom sgwrs yn Gymraeg a’r ddwy ohonom yn rhyfeddu at harddwch yr olygfa o’n blaenau. Doedd dim angen geiriau i wneud hyn wrth i’r ddwy ohonom sefyll yn geg agored wrth syllu ar ryfeddodau Eryri.
Yr Wyddfa dros ffordd i ni fel brenin y cewri yn edrych arnom mewn tawelwch a Chrib Nantlle i’r dde ohonom fel neidr hir yn ymestyn am Garnedd Goch a Chraig Goch, yn ein gwahodd i Ddyffryn Nantlle. Yna ar y gorwel pell tri chopa’r Eifl yn codi llaw ar y ddwy ohonom wrth rannu straeon am y pentref bach hudolus yng nghysgod y copaon. Mae Eve yn dal ati gyda’i Chymraeg ac yn gobeithio dod yn ôl i Nant yn fuan. Mae hi wedi syrthio mewn cariad gyda mynyddoedd Cymru a hynny wedi sbarduno ei diddordeb yn yr iaith Gymraeg. Mae’r cariad a’r parch sydd ganddi at ein mynyddoedd a’n iaith yn mynd law yn llaw erbyn hyn.
Mae pob taith i ben Moel Eilio yn wahanol a’r cyfle am sgwrs yn siŵr o godi. Ond un peth sy’n saff dw i’n gorfod dal ati wrth straffaglu am y copa bob tro cyn mwynhau’r ffriwil bendigedig ar y ffordd i lawr. Dal ati sydd rhaid gyda phopeth. Dw i’n edrych ymlaen yn arw am fy am dro nesaf i ben y mynydd wedi’r hunllef bresennol ddod i ben.
Dyma ddyfyniad gwych o lyfr arbennig iawn o’r enw “Galwad y Mynydd” gan Ioan Bowen Rees, hanes unigolion yn concro copaon mawr y byd wrth ddal ati drwy bopeth.
“there is no comradeship like that of two friends mountaineering together. They can achieve a sympathy of movement greater than that of any machine” – #togetherstronger
Daliwch ati, cadwch yn saff a chadwch yn hwyliog. Fe ddaw haul uwchben Moel Eilio unwaith eto.