Sylfaenydd Nant Gwrtheyrn yn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd o’r RCGP

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Sylfaenydd Nant Gwrtheyrn yn cael ei anrhydeddu’n Gymrawd o’r RCGP

Mae’r Meddyg Carl Clowes, sylfaenydd Canolfan Iaith a threftadaeth Nant Gwrtheyrn, wedi ei anrhydeddu yn gymrawd anrhydeddus o’r Royal College of General Practitioners. Ef yw’r cyntaf i dderbyn yr anrhydedd ar sail gwaith sydd yn ychwanegol i’w waith fel Meddyg Teulu. Mae’r Meddyg Carl Clowes yn derbyn yr anrhydedd ar sail ei gyfraniad i’w faes arbenigol sef ‘Iechyd cyhoeddus’ ynghyd â’i gyfraniad eithriadol i faes iechyd yn Lesotho.

Ef oedd Cadeirydd sylfaenol Dolen Cymru, y berthynas arbennig rhwng Cymru a Lesotho a sefydlwyd yn 1985. Bellach, mae’n Llywydd am Oes yr elusen honno ac yn Is-gennad Lesotho yng Nghymru. Ers 1985, mae gwaith Dolen Cymru wedi newid bywydau cymunedau, ysgolion, sefydliadau iechyd ac unigolion yn Lesotho trwy ddatblygu hyfforddiant iechyd meddwl, cyfnodau gweithio i fyfyrwyr meddygaeth a datblygu rhaglen HIV/AIDS.

Sylfaenodd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn 1978 wrth weithio fel meddyg teulu ym mhractis meddygol Bro’r Eifl, ef oedd cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yn ystod cyfnod ffurfio’r ganolfan a phellach ef yw Llywydd yr Ymddiriedolaeth.

Yn 2009, fe`i gydnabuwyd gydag anrhydedd sifil uchaf Lesotho sef Member of the Most Loyal Order of Ramatseatsana. Yn aelod o’r Orsedd, fe’i anrhydeddwyd gydag Urdd y Derwyddon am “ei wasanaeth lleol, cenedlaethol a rhyngwladol”. Y mae ganddo ddiddordeb o hyd yn ei faes arbenigol sef `iechyd cyhoeddus` ac mae wedi ei anrhydeddu fel Cymrawd Iechyd Cyhoeddus, Coleg Brenhinol y Ffisigwyr. Mae’n aelod cyfredol o Fwrdd, Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Wrth siarad am ei Gymrodoriaeth er Anrhydedd , meddai Carl: “Mae’n anrhydedd fawr i gael fy nghydnabod fel hyn gan yr RCGP. Fy angerdd personol yw grymuso cymunedau, sydd, yn ei dro, yn grymuso pobl. Gyda grym daw hyder a llai o ddibyniaeth ar ffordd o fyw sy’n debygol o fod yn niweidiol i iechyd.”

feeb