Bûm yn gweithio yng Nghymru am 10 mlynedd ac mae’r awydd i ddysgu Cymraeg wedi bod yn freuddwyd bersonol dros y blynyddoedd. Yn dilyn newidiadau yn fy sefyllfa bersonol yn 2017 roeddwn mewn sefyllfa berffaith i fynd amdani. Yn dilyn gwaith ymchwil helaeth daeth yn amlwg i mi mai Nant Gwrtheyrn oedd y lle delfrydol ar fy nghyfer. Bu i mi fynychu fy nghwrs preswyl cyntaf yn Nant Gwrtheyrn ym mis Chwefror 2018. Erbyn hyn mae’r iaith Gymraeg wedi cael gafael arnaf! Dim ond ambell air Cymraeg yr oedd gennyf cyn i mi fynychu fy nghwrs cyntaf, er nad oedd hynny’n rhwystro’r tiwtor – roedd ei hangerdd, credoau a brwdfrydedd yn allweddol i sicrhau fy mod yn dal ati. Roedd yn bleser ail ymweld â’r Nant drwy fynychu’r cwrs 5 niwrnod dwys, Mynediad 1 yn ôl ym mis Gorffennaf 2018.
Er fy mod ar ddechrau fy nhaith iaith, mae’r profiad o dreulio amser yn Nant Gwrtheyrn wedi fy ysbrydoli – does dim lle gwell i ddysgu Cymraeg! Mae’r lleoliad yn hardd ac yn berffaith i dreulio amser yn cael eich ymdrochi yn yr iaith heb ymyrraeth allanol. Mae’r holl staff yn Nant Gwrtheyrn yn groesawgar a chefnogol. Roedd gan y tiwtoriaid amynedd a’r gallu i gyflwyno gwersi hwyliog. Dwi’n falch iawn o’r ffaith fy mod yn dysgu Cymraeg ac yn teimlo’n freintiedig fy mod wedi dechrau fy nhaith iaith yn Nant Gwrtheyrn. Byddaf yn ôl am fwy yn gynnar yn 2019.