Teyrnged gan Dr Carl Clowes i’r diweddar John Hume
Gyda marwolaeth John Hume, mae’n cymdeithas wedi colli nid yn unig wleidydd o bwys ond cefnogwr brwd ieithoedd llai Ewrop. Roedd John yn sefydlydd plaid yr SDLP ac yn 1998 enillydd Wobr Heddwch Nobel am ei waith ddi-flino yng Ngogledd Iwerddon.
Er hynny, fel ymgyrchydd dros ieithoedd lleiafrifol Ewrop, wnes i ddod i’w adnabod. Daeth i’m adnabyddiaeth fel Aelod Senedd Ewrop yn yr ‘80au gyda chynnig a arweiniodd at sefydlu Biwro Ieithoedd Llai eu Defnydd – corff a roddodd cryn cefnogaeth i’r Nant ar y pryd.
Yn 1989, cynhaliwyd Cynhadledd yn Nant Gwrtheyrn gyda John Hume yn un o siaradwyr y penwythnos. Fel un oedd wedi bod yng nghanol yr holl helyntion am dros ugain mlynedd, roedd wedi dioddef llawer wrth ymladd i geisio cadw’r cydbwysedd rhwng y gwahanol carfannau er sicrhau heddwch. Cofiaf y sgwrs yn dda ar ddiwedd y Gynhadledd. Roedd yn sesiwn hynod o lwyddiannus ond, wrth ddod oddi yno, a cherdded i fyny’r allt o’r caffi a siarad am y sefyllfa yn Iwerddon, daeth y geiriau anniswgwyl a sobr, “Carl, dw i ddim yn siwr am faint y medraf barhau fel hyn – ‘dw i wedi blino yn lan”. Roedd y fynegiant dwys yn ei lais yn amlwg.
Dros y blynyddoedd wedyn, ddatblygodd y cyflwr Alzheimer a marwodd yr wythnos hon yn 83 oed.