Trefniadau dros gyfnod y Nadolig 2020

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Trefniadau dros gyfnod y Nadolig 2020

Trefniadau dros gyfnod y Nadolig 2020

Gyda’r cyfyngiadau newydd wedi dod i rym yng Nghymru o 20/12/2020 bydd yn ofynnol i ni gau’r safle am gyfnod. Bydd y sefyllfa yn cael ei adolygu’n rheolaidd er mwyn cydymffurfio a gofynion Llywodraeth Cymru.

Bydd safle‘r Nant ar gau o 24/12/2020 tan 04/01/2021. Os oes gennych unrhyw ymholiadau (brys yn unig) gallwch gysylltu gyda ni drwy:

O’r 4ydd Ionawr 2021 ymlaen bydd y giât ar agor ar gyfer cerddwyr lleol yn unig.

Swyddfa: Ar agor ar gyfer ymholiadau ffôn ac e-byst (ni fydd y swyddfa ddim ar agor i’r cyhoedd)

Adran Addysg: Bydd cyrsiau rhithiol yn ail gychwyn 11/01/2021

Adran Arlwyo/Caffi Meinir: ar gau tan ddiwedd Ionawr.

Bydd yr uchod yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd ar ein gwefan fel mae’r wybodaeth yn cael ei rannu gan Lywodraeth Cymru ac yn seiliedig ar rifíw bob tair wythnos gan y Llywodraeth.

Dyma sut mae’r Llywodraeth yn diffinio’r gwanhaol lefelau. O 28/12/2020 bydd Cymru i gyd dan reolau Lefel 4.

  • Lefel rhybudd 1 (risg isel): Dyma’r lefel cyfyngiadau agosaf at normalrwydd sy’n bosibl tra mae cyfraddau heintio yn isel a mesurau ataliol eraill yn parhau ar waith, megis cadw pellter cymdeithasol a gweithio gartref.
  • Lefel rhybudd 2 (risg ganolig): Mae’r lefel hon yn cynnwys mesurau rheoli ychwanegol i gyfyngu ar ledaeniad y coronafeirws. Gall y rhain gael eu hategu gan gamau gweithredu lleol wedi’u targedu’n fwy, a roddir ar waith i reoli achosion lluosog neu frigiadau penodol.
  • Lefel rhybudd 3 (risg uchel): Dyma’r cyfyngiadau llymaf heblaw am gyfnod atal byr neu gyfnod clo. Maent yn ymateb i lefelau heintio uwch neu gynyddol lle nad yw camau gweithredu lleol yn effeithiol mwyach o ran cyfyngu ar dwf y feirws.
  • Lefel rhybudd 4 (risg uchel iawn): Byddai cyfyngiadau ar y lefel hon yn cyfateb i reoliadau’r cyfnod atal byr neu’r cyfnod clo. Gellid defnyddio’r rhain naill ai fel cyfnod atal byr neu fel cyfnod clo.

Diolch am eich cefnogaeth.

 

feeb