Tŷ Powdr – trysor cudd Porth y Nant
gan Geraint Jones
Tŷ Powdr yw’r adeilad rhyfeddol hwn, mae hefyd yn cael ei adnabod fel ‘y magazine’, ac roedd yn cael ei ddefnyddio’n benodol gan chwarel Porth y Nant. Mae wedi ei leoli ar ben draw clogwyn anghysbell ac yn sefyll fel ceidwad sy’n cadw llygaid ar y pentref.
Roedd gan bob chwarel ei ‘magazine’ os nad dau, yn dibynnu ar faint o bowdr oedd angen. Dyma ble roedd y powdr du ar gyfer y ffrwydro yn cael ei gadw, roedd yr adeiladu hyn wastad yn eithaf pell o’r chwareli ei hunain, gan fod y powdr o bryd i’w gilydd yn ffrwydro heb rybudd, ac os oedd tunelli wedi eu storio yno, roedd hi’n bwysig cadw pellter.
Defnyddir powdr i ffrwydro’r creigiau tan tua 1910, roedd yn llosgi’n araf ac o ganlyniad roedd y ffrwydrad yn un ysgafn ac araf. Yn draddodiadol mae’r powdr yn hollti’r graig yn hytrach nai ffrwydro’n ddarnau man. Dyma’r weithdrefn oedd yn cael ei defnyddio yn y chwareli llechi hefyd.
Roedd yr adeiladau’n cael eu hadeiladu’n gryf er mwyn cyrraedd gofynion diogelwch storio’r deunydd. Yn ei anterth, byddai’r adeilad wedi cael ei orchuddio mewn pren i’w gadw’n sych. Mae’r to ei hun yn anhygoel, yn gromennog ac wedi ei adeiladu allan o ithfaen y chwarel ei hun.
Mae’n werth i chi ddod am dro ryw ddiwrnod i geisio dod o hyn iddo!