Y byd o’n cwmpas gan Ceri Brunelli Williams

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Y byd o’n cwmpas gan Ceri Brunelli Williams

Y byd o’n cwmpas
gan Ceri Brunelli Williams

Rhyfedd o fyd. Ges i fy atgoffa o’r dweud yma gan gyd-weithiwr doeth rai wythnosau nôl. A dydi o erioed wedi gwneud cymaint o synnwyr ag y mae o heddiw.

Mae’r cyfnod yma yn wahanol i bawb, a bydd pawb yn edrych yn ôl arno gyda barn a theimladau cymysg. Ond does dim dwywaith fod y cyfnod hwn wedi ein hysbrydoli. Wedi rhoi amser i ni gymryd cam yn ôl, cyfle i edrych ar ein hunain a chyfle i ddod i adnabod ein hunain yn well.

Mae o hefyd wedi rhoi cyfle i ni ddod i adnabod y byd sydd o’n cwmpas. Gwerthfawrogi ein milltir sgwâr.

Fe ddywedodd Twm Elias wrtha i rai wythnosau nôl bod rhaid deall ac adnabod natur i’w wir werthfawrogi – ac yna daw’r parch. Deall – gwerthfawrogi – parchu. Y cyngor gorau dwi wedi ei gael eleni.

Felly dyma fi, yn ystod penwythnos olaf mis Mai, yn penderfynu mod i am godi a cherdded 4 milltir i wylio’r wawr o gopa Garn Fadryn.

Bara banana yn y popty y noson cynt. Larwm yn canu am 3.30am, tortsh am fy mhen ac Alffi y ci wrth fy ochor. Ffwrdd â ni.

Cyrraedd y copa o fewn eiliadau i gael dymuno bore da i Eryri, Harlech, Môn a Llŷn yng ngolau aur y wawr. Pob anadl yn llenwi fy ysgyfaint gyda phrydferthwch. Oedd,  roedd yr olygfa yn wefreiddiol. Ond, yn hytrach na mynd ar garlam i weld yr olygfa’r bore hwnnw, mi nes i gymryd yr amser i ddeall, gwerthfawrogi a pharchu.

Yr uchafbwynt oedd synau’r adar (roeddwn wedi bod yn gwylio fideos Ben Porter ar Youtube y noson cynt i weld pa rai y gallwn eu hadnabod). Astudio’r blodau, y siani flewog amryliw welais ar lwybr y mynydd a’r teulu o lwynogod uwchben Llaniestyn, y cannoedd o gartrefi sidan pryfaid cop yn y cloddiau – dyma oedd yr uchafbwyntiau. Dyma sy’n llenwi ’nghalon gyda balchder a gwerthfawrogiad am fy milltir sgwâr wrth eistedd o dan y geiriau ‘Cofiwch Dryweryn’ ar y copa.

Mae’r cyfnod hwn yn sicr wedi deffro’r synhwyrau. Clywed corau’r adar bach. Gweld lliwiau’r cloddiau’n trawsnewid o felyn y cennin Pedr a’r eithin ym mis Mawrth i biws y clychau’r gog ym mis Ebrill ac yna phrydferthwch pinc mis Mai (rhosod gwyllt, bysedd y cŵn a blodyn neidr).

Dwi wedi blasu natur. Y garlleg gwyllt nes i ei bigo o ochrau mynydd Rhiw i wneud bara cartref a’r cordial ysgaw o’r cloddiau rhwng Botwnnog a Sarn ges i yn fy gin dros y penwythnos.

A doedd dim teimlad gwell na’r tywod rhwng bysedd fy nhraed am y tro cyntaf mewn tri mis. Trysorau natur yn wir.

“Sgwennu rhag mygu”, dyma ddywedodd un o fy hoff awduron, Kate Roberts. Ond y gwir amdani mewn cyfnod fel hyn ydi ein bod ni gyd angen ffeindio rhywbeth rhag mygu. Boed hynny’n gwylio Netflix nes mae eich llygaid yn groes, yn gwylio neu ddarllen yr holl gynnwys Cymraeg arbennig sydd ar y cyfryngau cymdeithasol i godi calon. Neu’n deffro am 4am i fynd i wylio’r wawr. Gwnewch beth bynnag sy’n eich helpu chi. Ffeindiwch eich ffordd o ymdopi. Eich cysur, eich dihangfa, eich ffordd o ymlacio – beth bynnag ’dach chi’n ei alw, ’dan ni gyd wedi gorfod addasu, dod i adnabod ein hunain ac ymdopi y gorau gallwn.

Ydi, yn fwy nag erioed mae hi’n rhyfedd o fyd. Ond mae hi hefyd yn rhyfeddol o fyd. Deallwch y rhyfeddodau, gwerthfawrogwch nhw a pharchwch nhw. Nid natur yn unig fydd yn elwa o ganlyniad.

4 thoughts on “Y byd o’n cwmpas gan Ceri Brunelli Williams

  1. Anonymous

    Darn positif a diddorol iawn. Diolch Ceri.

  2. Anonymous

    Bendigedig Ceri

  3. Anonymous

    Codi hiraeth mawr arnaf am harddwch fy mro.

  4. Gwenlli

    Gwych Ceri, codi hiraeth mawr, dal i flogio Ceri x

Comments are closed.

feeb