Y Cwrs awduron
gan Bethan Gwanas
Ro’n i ar ganol gwneud Powerpoint am Dewi Prysor pan chwalodd Covid-19 ein bywydau ni. Roedd Dewi i fod yn un o’r awduron ro’n i am eu cyflwyno i’r criw fyddai ar ein Cwrs Awduron Cymru ni ganol Mehefin. O wel, mae’n siŵr y cawn ni gynnal y cwrs eto yn 2021 am wn i. Ac mi fydd yn gwrs gwerth aros amdano, gobeithio!
Dyma’r pedwerydd cwrs i mi (fwriadu) ei gynnal yn trafod llyfrau ac awduron Cymru efo dysgwyr Uwch 2, a dw i’n falch o ddeud bod nifer o’r criw gwreiddiol wedi dod bob blwyddyn wedi hynny. Mae’n rhaid ei fod yn gweithio, felly.
Arbrawf oedd y cyntaf nôl yn 2017, a chwrs ‘Merched mewn Llenyddiaeth’ oedd o. Roedd pawb yn cael blas manwl o waith merched fel Kate Roberts, Elizabeth Watkin Jones (hogan leol), Caryl Lewis, Mererid Hopwood a Ruth Richards, ond mi wnes i hefyd gynnwys sesiwn yn darllen a thrafod darnau ffeithiol allan o’r gyfrol ddwyieithog (a hynod ddifyr) Merched Gwyllt Cymru.
Ro’n i’n cael gwahodd dwy awdures i ddod aton ni gyda’r nos, felly dyma ddewis
Angharad Price a Karen Owen (er mai bardd ydi hi mewn gwirionedd), a chafwyd nosweithiau diddorol a hwyliog yn eu cwmni. Wrth lwc (neu drefnu gofalus ymlaen llaw…) ro’n i’n cynnal noson gyda Merched y Wawr Trefor, ychydig filltiroedd i fyny’r ffordd o’r Nant yr wythnos honno, a chafodd pawb o’r criw wahoddiad i ymuno â ni. Nefi, gawson ni hwyl! A sawl cacen.
Yn wahanol i’r disgwyl, roedd tipyn o ddynion wedi penderfynu dod ar y cwrs hwnnw, a golygai hynny ein bod yn cael trafodaethau hynod ddifyr. Yn wahanol i Gymry Cymraeg, mae dysgwyr yn llawer mwy parod i “ddeud eu deud” yn gwbl onest a di-flewyn ar dafod am lyfrau, ac mi ges fy hun yn piffian chwerthin sawl tro. Roedd y cyfan yn chwa o awyr iach go iawn, ac mi wnes i fwynhau bob munud o’r cwrs, er mod i wedi blino’n rhacs erbyn bnawn Gwener!
Yn 2018, penderfynwyd ehangu’r cwrs i gynnwys awduron gwrywaidd hefyd, felly dyma gyflwyno gwaith Rhys Iorwerth, Sonia Edwards, Ifor ap Glyn, Mihangel Morgan a Lleucu Roberts, a gosod un o lyfrau Manon Steffan Ros ‘Sbectol Inc’ fel gwaith cartref i’w ddarllen ymlaen llaw. Nofel fer iawn ydi hi, un o gyfres ‘Stori Sydyn’ a dyma Eleri Llewelyn Morris a minnau’n cael y syniad gwych o wahodd pobl leol i’w darllen hefyd ac ymuno wedyn efo’r dysgwyr i gael y clwb darllen mwya y gwn i amdano. Profodd hynny’n llwyddiant pendant, felly dyma wneud yr un peth yn 2019 gyda ‘Llyfr Glas Nebo’ a gwahodd Manon i ddod draw gyda’r nos i sgwrsio gyda ni – y noson cyn iddi ennill gwobr ‘Llyfr y Flwyddyn’! Yr awduron eraill dan sylw y flwyddyn honno oedd Daniel Davies, Sian Northey, Alun Davies, Alun Jones, Mared Lewis a Llwyd Owen gyda sesiwn farddoniaeth yn ogystal gyda’r hyfryd Aled Lewis Evans.
Mae pob cwrs wedi bod yn hwyl ac yn addysg i mi, yn ogystal â’r dysgwyr, ac mae gweld yr un rhai’n dod yn ôl yn rhoi teimlad cynnes iawn i rywun. Bron nad ydan ni fel rhyw deulu bach o bobl sy’n caru llyfrau yn cael aduniad blynyddol, ond mae dysgwyr newydd yn gallu ffitio i mewn yn rhyfeddol o hawdd hefyd. Mae gan bawb ei farn a’i gefndir gwahanol ac mae’n wych gallu dysgu oddi ar ein gilydd.
Mae’r awduron ro’n i wedi eu dewis eleni unwaith eto yn amrywio’n fawr, o’r llenyddol i’r ysgafn, o’r beiddgar i’r dwys: Dewi Prysor, Wiliam Owen Roberts, John Roberts (fydd yn dod aton ni gyda’r nos), Elinor Wyn Reynolds, Ifan Morgan Jones a Marlyn Samuel. O, ac roedden ni wedi gobeithio mynd am daith i Nebo un prynhawn!
Rydan ni hefyd wedi cael tywydd godidog bob tro. Mi rydw i, o leiaf, yn edrych mlaen at y cwrs nesaf yn arw – pryd bynnag fydd o.
Gwnes i’r cwrs cyntaf yn 2017 ac ro’n i wrth fy modd yn trafod y llyfrau i gyd. Dw i’n cofio mynd i gyfarfod Merched y Wawr yn Nhrefor…cawson ni lot o hwyl. Erbyn hyn, dw i wedi ymuno â changen MyW Llundain. Ar hyn o bryd dw i’n ailddarllen ‘Gwrach y Gwyllt’ wrth edrych ymlaen at lyfr newydd Bethan yn yr haf. Y tro yma, dw i’n ei fwynhau’n fwy na gwnes i’r tro cyntaf i mi ‘ddarllen. Hoffwn i wneud unrhyw gwrs gan Bethan.
Diolch, Carole! Gobeithio y byddi di’n mwynhau ‘Merch y Gwyllt’ ar y darlleniad cyntaf pan fydd o wedi ei gyhoeddi. 😉 (methu gwneud emoji ar hwn). Dim syniad pryd fydd hynny, wrth gwrs. Ond bydd erthygl yn Golwg wythnos nesa os wyt ti eisiau blas. x