“Y mwyaf dwi’n dysgu, y mwyaf dwi eisiau dysgu”
Y Gwyddel sy’n dysgu Cymraeg
Dechreuodd perthynas Aidan Mc Gilney gyda Cymru yn 2008, pan ddaeth i adnabod ei ffrind Dyfan tra’n gweithio gyda’i gilydd i’r Cenhedloedd Unedig yn Lesotho.
Deg mlynedd yn ddiweddarach, daeth Aidan ar 2 ddiwrnod o wyliau i ogledd Cymru, gan fynd draw i’r Eisteddfod yn Llanrwst gyda’i ffrind Dyfan a dod ar draws stondin Dysgu Cymraeg – dyma ddechrau ar ei daith o ddysgu’r Gymraeg ar-lein.
Iaith gyntaf Aidan yw Gwyddeleg, mae’n byw ar ynys fechan Tory oddi ar arfordir gogledd-orllewin Iwerddon. Yn y rhan yma o Iwerddon maent yn deall Gaeleg yr Alban yn well na’r Gwyddeleg sy’n cael ei siarad yn ne Iwerddon.
Mae Aidan newydd gwblhau cwrs ar-lein lefel mynediad 10-wythnos gyda’n tiwtor Shân. Dyma beth oedd ganddo i’w ddweud am y profiad, a beth mae o wedi dysgu am y tebygrwydd rhwng yr iaith Gwyddeleg a’r Gymraeg.
“Pan fyddai’n dweud wrth bobl mod i’n dysgu Cymraeg, yr ymateb cyntaf fyddai’n gael yw: ‘O, fyswn i ddim yn dysgu’r iaith yna, mae’r synau mor wahanol.’ Ond i fy syndod, dwi wedi ffeindio bod nifer o gysylltiadau tebyg rhwng y ddwy iaith.
“Roeddwn i eisiau datgloi’r gwahaniaethau a gweld hyn dros fy hun. I ddechrau roedd o’n dipyn o sioc clywed y synau newydd, mae tebygrwydd amlwg rhwng yr iaith ysgrifenedig a rhwng y treigladau, ond maent yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd gwahanol. Unwaith roeddwn i wedi dysgu fy hun i anghofio Gwyddeleg ac i drin y Gymraeg fel iaith newydd, nes i ffeindio’r dysgu’n haws.”
Mae Aidan wedi creu rhestr ddiddorol sy’n dangos enghreifftiau o Gaeilge (Gwyddeleg) a Gàidhlig (Gaeleg) sydd wedi’u cuddio yn y cwrs Cymraeg.
“Mae dysgu Cymraeg ar-lein wedi bod yn brofiad gwych. Mae dysgu gydag eraill yn eich galluogi i wirio eich dealltwriaeth. Mae’n gyfle i weld pobl, i ddod i adnabod pobl ac yn gyfle i ymarfer sgwrs naturiol. Mae hyn yn gwneud gymaint o wahaniaeth. Mae’r cyfle i ddysgu ar-lein wedi bod yn wych, yn enwedig i bobl fel fi sydd yn byw mae ardaloedd gwledig. Rydym yn cael yr un cyfleodd a phobl sy’n byw mewn ardaloedd dinesig o ganlyniad i COVID-19. Yn ystod y cwrs roeddem yn cael ein rhannu i ystafelloedd ac yn cael cyfle i ymarfer drosodd a drosodd. Mae Shân yn ymarfer efo pawb, ac yn ail-adrodd y broses nes bod chi’n gallu ynganu’r gair yn gywir.
“Y brif fantais o ddysgu ar-lein yw bod strwythur clir i’r cwrs ac mae’n haws canolbwyntio. Mae rhywun yn mynd at y gwaith yn syth ac yn treulio’r holl amser yn dysgu.
“Mi fyddai’n cario mlaen gyda fy nhaith i ddysgu’r Gymraeg. Y mwyaf dwi’n ddysgu, y mwyaf dwi eisiau dysgu. Nes i ddweud wrth Dyfan tro diwethaf y byddwn i’n gallu dweud ambell air erbyn fy ymweliad nesaf. Dwi’n gobeithio y byddai’n gallu dweud ambell frawddegau erbyn hynny! Ond dwi’n mynd i fwynhau a chymryd fy amser.”
Mae Shân wedi dysgu ambell beth gan Aidan hefyd: “Mae bod yn diwtor Cymraeg i Oedolion yn Nant Gwrtheyrn yn swydd ddiddorol iawn gan fod ein dysgwyr yn blethiad cyfoethog o wahanol gymeriadau, diwylliannau ac ieithoedd amrywiol. Teimlaf yn ffodus iawn o gael bod yn rhan o’r plethiad yma. Ymunodd Aidan â’r dosbarth ar fore Mawrth, naw wythnos yn ôl bellach. Yn ystod y cyfnod mi fu’n ymddiddori mewn edrych ar y tebygrwydd rhwng y ddwy iaith. Mae angerdd Aidan tuag at ei famiaith yn heintus yn wir. Mae pawb yn dysgu yn y dosbarth Cymraeg gan gynnwys y tiwtor! Diolch Aidan.”
Mae Aidan yn cofio dod ar draws swyddfa Dolen Cymru yn Lesotho yn 2008. Mae’r swyddfa drws nesaf i swyddfa’r Cenhedloedd Unedig yn Maseru. Roedd wrth ei fodd yn clywed mai Dr Carl Clowes oedd sylfaenydd Dolen Cymru a’r Nant. Byd bach!
Gallwch weld manylion ein cyrsiau ar-lein a cyrsiau preswyl yma.