Diolch yn fawr i Elwyn Jones (Elwyn Caera) am gysylltu gyda ni yn ddiweddar. Mae Elwyn wedi ysgrifennu dwy gerdd hyfryd am y Nant. Mwynhewch!
Nant Gwrtheyrn
Gwagle lle bu craig di hollt
yn dymchwel i lawr at y don.
Craith fonciog lle bu gwaith
a chymdeithas ystyrlon.
Geifr gwyllt lle bu chwarelwyr
yn troedio’r llwybrau geirwon.
Darfu y gwaith.
Pery yr iaith.
Cariad yn y Nant.
Mae na gwpl yn swatio
ar y sedd uwchben y nant
ac yn cerdded gan freuddweidio
law yn llaw i lawr i’r pant.
Melltithiodd y mynach y tir o dan ei droed.
Ond mae cariad yn dal i guddio yn y coed.