Y Normal ‘newydd’
gan Ifor Gruffydd
Mae ‘na sôn cynyddol wedi bod ar y cyfryngau yn ystod yr argyfwng Covid-19 presennol na fydd pethau byth ‘run fath. Ar y cychwyn, mi feddyliais i, “ia siŵr, pobl negyddol yn siarad ar eu cyfer eto”, ond erbyn hyn dwi’n cytuno hefo ‘nhw’. Dwi wedi dod i sylweddoli y bydd rhai pethau’n newid yn barhaol ac efallai fod yna fanteision i ni yn hynny o beth.
Mae yna gyfle i edrych ar iechyd a lles gweithwyr. Pan ddechreuais i weithio ar ddiwedd yr 1980au roeddwn i a mwyafrif fy nghyfoedion yn gweithio’r 9 tan 5 ystrydebol. Roedd ffin eithaf pendant rhwng amser gwaith ac amser personol. Un o nodweddion negyddol datblygiad technoleg gwybodaeth efallai oedd chwalu’r oriau gwaith traddodiadol yma gan arwain at fedru gweithio o unrhyw le a chyfathrebu o unrhyw le hefo ffôn neu e-bost. Ochr yn ochr â hynny mae cyni ariannol y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol yn benodol wedi golygu fod pobl yn gwneud mwy a mwy o waith (gyda chymorth technoleg) yn ystod eu hwythnos waith ac mae’r ffin rhwng oriau gwaith ac oriau hamdden wedi mynd yn niwlog.
Dwi’n gweithio o adra ers deufis a mwy bellach, ac rydw i wedi llwyddo i wneud hynny diolch i‘r dechnoleg ddiweddaraf – mae cyfarfodydd fideo wedi achub y dydd! Dyma ochr arall y geiniog. Mae’r cyfnod hwn hefyd wedi dangos i mi fod modd cael cydbwysedd gwell rhwng bywyd gwaith a bywyd personol. Mae’r cyfnod teithio i’r gwaith rŵan yn gyfle i fynd i redeg a cheisio cadw’n heini. Os ydy hi’n braf, mae modd gadael y cyfrifiadur a mynd am dro neu fynd allan i’r ardd hefo paned i ymlacio am 20 munud. Does dim byd o’i le mewn dal i fyny hefo’r gwaith am awr neu ddwy gyda’r nos – beth bynnag yr ydych chi’n gyfforddus ag o. Er bod y mynydd o waith yn dal i fod yno, pwysigrwydd hyn ydy edrych ar ôl lles a iechyd meddwl yn hytrach na theimlo fel bochdew ar olwyn.
Efallai y bydd y normal newydd yn barhad o’r drefn hon i ryw raddau, ac y bydd pobl yn gweithio o adref am ran o’r wythnos waith. Bydd llai o deithio i gyfarfodydd, llai o lawer o deithiau trên hir, di-baned, i lawr i Gaerdydd. Mae manteision clir i hyn a bydd defnyddio llai ar y car yn golygu gweithio yn fwy ‘gwyrdd’ hefyd.
Dwi’n dechrau licio’r syniad ‘ma o normal newydd.