Yn yr wythnosau hyn gan Myrddin ap Dafydd

Nant Gwrtheyrn > Blogiau > Yn yr wythnosau hyn gan Myrddin ap Dafydd

Yn yr wythnosau hyn
gan Myrddin ap Dafydd

Mae’r wythnosau diwethaf wedi ein dysgu i edrych ar yr un olygfa ddyddiol a bodloni arni. Mi allwn hefyd ei rhannu gydag eraill. Dan ni’n lwcus mai’r Eifl a Charnguwch yw honno o’n cartref ni yn Llwyndyrys – yr ochr arall i’r bwlch i Nant Gwrtheyrn. Er mai’r un un yw hi bob dydd, rydan ni hefyd yn mwynhau gweld rhywbeth newydd ynddi o hyd. Dan ni’n cerdded yr un llwybrau plwy, ac yn canfod newydd-deb ym mhob tro.

Mae’n gyfnod lle nad ydi watsh, calendr a dyddiadur ddim yn cael llawer o sylw. Ar un adeg, does dydi amser ddim yn bwysig. Eto, rydan ni yn ei ystyried yn werthfawr mewn ffordd wahanol. Does yr un diwrnod yn llusgo; mae pob awr yn llawn.

Un patrwm wythnosol rydan ni wedi cadw ato ydi cerdded, bob bore Sadwrn, y llwybr gyda glannau blaenau nant Rhyd-hir sy’n nodi’r ffin rhwng plwyfi Carnguwch a Phistyll. Y llwybr hwn sy’n mynd â ni at Siop Pen-y-groes, Llithfaen. Menter gydweithredol, gymunedol ydi’r siop, ac ni fu hi erioed yn fwy gwerthfawr. Fu hi erioed yn fwy cymunedol chwaith. Talu am bapurau’r wythnos, llenwi’r bag cefn gyda ffrwythau, llysiau a phedair o’r croissants gorau yr ochr yma i Calais. Wedyn eistedd ar fainc y groes i fwyta afal a chael sgyrsiau hyd brwsh llawr gyda phwy bynnag sy’n galw heibio.

Wedi chwe wythnos, rydan ni’n cofio’r Sadyrnau wrth y profiadau, nid y dyddiadau. Sadwrn blodau drain duon oedd y cyntaf; Sadwrn blodau drain gwynion oedd hi yr wythnos hon. Mi gawsom ni hefyd Sadwrn creyr glas; Sadwrn y wennol gyntaf; Sadwrn clychau’r gog a Sadwrn hanes pen-blwydd Jessie.

Allwn ni fyth adnabod dim na neb nac unlle gystal fel nad oes yna brofiad newydd, dyddiol inni. Mae’n wir am ardal; mae’n wir am iaith. Dyna mae edrych ar yr Eifl a Charnguwch yn ei ddweud wrthym bob bore yn yr wythnosau hyn.

feeb