Yr hanes tu ôl i’r llun

Nant Gwrtheyrn > Newyddion > Yr hanes tu ôl i’r llun

Ydach chi wedi ymweld â’n Canolfan Ymwelwyr ac wedi sylwi ar y llun trawiadol du a gwyn o gwpwl ifanc sydd ar y wal o’ch blaen? Ydach chi erioed wedi meddwl beth yw’r hanes tu ôl i’r llun?

Wel, dyma fo i chi….

Priodwyd Bryn a Gwenan Jones yng nghapel y Nant 25 Awst 2001. Nhw oedd un o’r cyplau cyntaf i briodi yno. Cafodd y Nant ei awgrymu fel lleoliad priodas iddynt gan Nerys oedd wedi priodi yno yn 1998.

Dywedodd Gwenan: “Roeddwn i wedi aros yn y Nant yn dilyn fy Lefel A, ac roeddwn i wastad wedi hoffi’r lle.

“Roedd hi’n briodas wahanol i’r cyfnod, priodwyd ni am 3pm yn y capel, oedd yn llawer mwy hen ffasiwn nag y mae o heddiw, a chael un parti mawr mewn pabell fawr ar y darn glaswellt sydd o flaen y tai. Bob Delyn a’r Ebillion oedd yr adloniant fin nos ac fe ysgrifennodd Twm gerdd i ni hefyd. Roedd o’ barti a hanner!

“Teithiodd ffrindiau a theulu o bob cwr i’r briodas, o Berlin, Iwerddon a Llundain. Doedd bobl methu credu’r lon i lawr i’r pentref, oedd bryd hynny dipyn gwahanol i sut mae hi heddiw! Un o’r pethau dwi’n cofio am y diwrnod ydi’r lliw arian oedd ar y môr yn y bore o ganlyniad i’r tarth. Roedd o run lliw a fy ffrog. Fe gododd y tarth wrth i’r diwrnod fynd yn ei flaen ac erbyn y nos roedd hi’n awyr las.

“Rhodri Elis Jones, ffotograffydd ddogfen dynnodd y llun sydd i’w weld yn y ganolfan ymwelwyr. Bu’n rhan o arddangosfa yn y Llyfrgell Genedlaethol am gyfnod a dwi’n cymryd fod y llun wedi ei roi fel anrheg i’r Nant. Pe byddai’r Nant yn ail-addurno byddwn yn fwy na hapus i gael y copi gwreiddiol! Ond am y tro dwi’n ddigon hapus i’w edmygu pan fyddai’n cael cyfle i fynd lawr i’r Nant am dro.”

Diolch Gwenan am rannu stori’r llun ac atgofion eich diwrnod arbennig efo ni!

feeb