Llety unigryw ar Benrhyn Llŷn

Yn wahanol i westai arferol, mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig llety cwbl unigryw. Profwch hud a lledrith y Nant wrth aros mewn lleoliad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a threftadaeth ein gwlad. Profwch fyd natur, daeareg, hanes a’r iaith Gymraeg i gyd o fewn y dyffryn arbennig hwn.

Y lleoliad perffaith ar gyfer ymweliadau addysgol, gwyliau gyda ffrindiau neu deulu, cynhadledd breswyl neu ddihangfa ramantus…

  • Gwely a Brecwast

    Gwely a Brecwast

    Ymlaciwch yn ein hystafelloedd en-suite 4* (Llety Grŵp, Croeso Cymru).

    Mae’r 24 o fythynnod teras a godwyd yn 1860 yn Nant Gwrtheyrn wedi cael eu trosi yn llety moethus unigryw.

  • Llety Grŵp

    Llety Grŵp

    Gall amryw o grwpiau aros yma yn Nant Gwrtheyrn yn ein llety grŵp unigryw – o fod yn grwpiau addysgiadol, cerdded, diddordebau arbennig, priodasau, partïon, cynadleddau a grwpiau ar wyliau…

    Ystafelloedd yn cysgu hyd at 5 o bobl ynghyd â defnydd o neuadd aml bwrpas.

  • Hunan arlwyo

    Hunan arlwyo

    Mwynhewch wyliau ymlaciol, gyda golygfeydd godidog o’r môr, ym mythynnod Nant Gwrtheyrn – Mae’r bythynnod o fewn pellter cerdded i draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, ac mae’r dafarn a’r siop agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen.

Safle

Safle

1.    Y Neuadd

2.    Trem y Mynydd

3.    Trem y Môr

4.    Tŷ Canol + Sgubor

5.    Caffi Meinir

6.    Cae Canol

7.    Capel

8.    Swyddfa

Gwirio argaeledd

Llenwch eich manylion archebu isod

Cyrraedd

i

Gadael


Os ydych yn rhan o barti priodas, rhowch gyfeirnod y briodas isod