Lleoliad Priodas godidog yng Ngogledd Cymru

Wedi ei leoli ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn gyda golygfeydd hudolus o Fae Porthdinllaen, mae hen bentref chwarelyddol Nant Gwrtheyrn yn leoliad delfrydol ar gyfer eich diwrnod arbennig.

Priodasau yn y Nant

Priodasau yn y Nant

Mae’r Nant â’i draeth gwbl breifat, capel, dewis o ystafelloedd i gynnal brecwast priodas a pharti nos ynghŷd â’r llety 5* (Croeso Cymru) yn cynnig yr holl gyfleusterau angenrheidiol. Mae Capel trwyddedig ar y safle i gynnal priodasau crefyddol neu gellir defnyddio Ystafell Rhys fel y gelwir, (yn y Neuadd) neu’r sgubor ar gyfer gwasanaethau a phartneriaethau sifil. Rydym yn cynnal y wledd briodasol a pharti nos yn y Neuadd ac fe gynigir llety en-suite 5* i’r gwesteion ym mythynnod y chwarelwyr gerllaw.

Gyda safon uchel o wasanaeth, bwyd a diod ardderchog ynghŷd â golygfeydd arfordirol arbennig, mae pentref hudolus ac unigryw Nant Gwrtheyrn yn lleoliad perffaith i ymlacio a mwynhau’r dathliadau gyda’ch teulu a’ch ffrindiau.

Y Gwasanaeth

Y Gwasanaeth

Os ydych yn dewis priodi yn Nant Gwrtheyrn, cewch yr opsiwn o unai briodas grefyddol yn y capel neu briodas sifil yn Ystafell Rhys, sy’n rhan o’r Neuadd neu yn Sgubor.or at Sgubor.

Capel Seilo:

Codwyd Capel Seilo yn 1878 i wasanaethu cymuned chwarelyddol y Nant. Bellach, mae’r capel wedi ei adnewyddu ac yn cynnig gofod perffaith ar gyfer cynnal gwasanaeth priodas. Gallwn eistedd hyd at 100 o westeion yn y capel gyda lle i ragor sefyll yn y cefn a gellir trefnu ichi ymarfer trefn y gwasanaeth yn y Capel cyn y seremoni.

Ystafell Rhys a Sgubor:

Cynhelir priodasau sifil yn Ystafell Rhys neu yn Sgubor Tŷ Canol. Ceir golygfeydd godidog o’r môr yn ystafell Rhys a golygfeydd o’r goedwig a hen fferm Tŷ Uchaf o’r Sgubor. Gallwn eistedd hyd at 100 o westeion y Ystafell Rhys a 80 o westeion yn Sgubor. Wedi’r gwasanaeth, mae modd cerdded allan i fwynhau golygfeydd arbennig o’r môr a bae Porthdinllaen.

Y Wledd

Y Wledd

Cewch ddewis o amrywiaeth o fwydlenni arbennig wedi eu teilwra ar gyfer brecwast priodas neu barti nos, rhestrau gwin wedi eu dewis yn ofalus a phecynnau diodydd ar gael i ateb eich anghenion.

Mae ein prif gogydd yn hapus i drafod unrhyw ofynion neu syniadau sydd gennych ar gyfer eich brecwast priodas.

Rydym yn cynnig gwasanaeth cwrtais, hawddgar ac effeithiol o fewn fframwaith broffesiynol er mwyn sicrhau bod eich diwrnod arbennig yn Y Nant yn atgof bythgofiadwy ichi, eich teulu a’ch gwesteion i gyd…

Mae hyblygrwydd y neuadd yn golygu y gellir creu lleoliad unigryw a chofiadwy i chi boed eich dathliad yn briodas fawr neu yn achlysur personol ar gyfer teulu a ffrindiau agos, yn gyfle I adnewyddu eich addunedau priodasol neu’n barti nôs ar raddfa fawr.

Mae lle i hyd at 146 o westeion i fwynhau’r wledd briodasol a lle i hyd at 250 ar gyfer parti nôs ar ffurf bwffé. Os ydych yn teimlo bod y neuadd yn rhy fawr yn ei ffurf bresennol, mae’n bosibl defnyddio’r wal symudol (partisiwn) i gyfyngu ar maint y neuadd, a’i wneud yn fwy addas ar eich cyfer.

“Nes i briodi yma yn 2006! Un o ddyddiau gorau fy mywyd. Lleoliad hardd.” Jane Boug

“Fi a Nerys oedd y cwpl cyntaf i briodi yn y Nant yn ôl yn 1997 a does unlle gwell! Cawsom ni a’r holl westsai benwythnos anhygoel -lle hudol go iawn.” Wyn Owen

“Mi gefais y briodas fwyaf anhygoel yma.” Katy Marrie