Newyddion

Cychwyn ‘rhagorol’ i 2024 wrth i Nant Gwrtheyrn gael y dyfarniad gorau posib gan Estyn

Tîm Nant Gwrtheyrn

Heddiw cyhoeddodd Estyn ganlyniadau eu harolwg diweddar yn Nant Gwrtheyrn drwy ddyfarnu bod darpariaeth Dysgu Cymraeg yn ‘Rhagorol’ ym mhob un o’r 5 maes a archwilwyd, sef Safonau; Lles ac Agweddau at Ddysgu; Addysgu a Phrofiadau Dysgu; Gofal, Cymorth ac Arweiniad; ac Arweinyddiaeth a Rheolaeth.

Mae’r adroddiad yn nodi bod  “dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau dwys ac yn lletya ar safle’r Nant yn cael profiad Cymreig rhagorol wrth i’r rhan fwyaf wneud cynnydd estynedig mewn cyfnod byr iawn. Dyma yw un o rinweddau mwyaf nodedig y Nant. Mae’r profiad hwn yn aml yn trawsnewid bywydau dysgwyr ac yn rhoi’r hyder iddynt barhau ar eu taith i ddysgu Cymraeg.”

Dywedodd Siwan Tomos, Rheolwr Addysg a Threftadaeth Nant Gwrtheyrn: “Rydym wrth ein boddau yn derbyn y dyfarniad cadarnhaol yma. Yr hyn sy’n bwysig i ni yn y Nant yw bod ein dysgwyr yn gwneud cynnydd ac yn gadael y Nant ar brynhawn dydd Gwener yn llawn hyder. Mae’r boddhad yr ydym ni’n cael yn ein gwaith yn tarddu o weld y brwdfrydedd a’r agwedd gadarnhaol sy’ gan ddysgwyr wrth ein gadael ar ddiwedd wythnos. Yr agwedd a’r egni yma sy’n arwain at ddefnydd iaith ac at siaradwyr newydd sy’n falch o’u sgiliau ac yn barod i’w defnyddio.”

Cafodd bron i 800 o ddysgwyr y profiad o gychwyn ar eu taith iaith gyda Nant Gwrtheyrn flwyddyn diwethaf, a’r bwriad eleni yw cynyddu’r ddarpariaeth wrth i fwy a mwy o bobl ddangos diddordeb mewn dysgu Cymraeg – newyddion gwych i ddyfodol Nant Gwrtheyrn, ac i Lywodraeth Cymru wrth anelu at y targed o filiwn o siaradwr Cymraeg erbyn 2050.

Dywedodd Huw Jones, Cadeirydd Ymddiriediolaeth Nant Gwrtheyrn sy’n gyfrifol am y Ganolfan: ‘Mae’r canlyniadau gwych yma yn dyst i lwyddiant cyrsiau’r Nant i greu siaradwyr Cymraeg newydd mewn cyfnod byr. Mae’r lleoliad hudolus, y profiad o drochiad cynnes Cymreig sydd i’w gael yma, ac wrth  gwrs safon arbennig y dysgu, yn gyfuniad unigryw sy’n cael effaith barhaol ar y rhai sy’n dod yma i ddysgu’r iaith. Mae’r adolygiad yn glod arbennig i holl staff y Nant, sy’n gweithio gyda’i gilydd i gyflawni’r amcan yma.