Newyddion

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Cyfarfod Blynyddol 2022

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol yr Ymddiriedolaeth trwy Zoom ar ddydd Sadwrn, Gorffennaf 23ain.

Cyflwynodd y Cadeirydd, Huw Jones, adroddiad ar waith y flwyddyn. Gellir cael golwg arno yma.

Yn dilyn marwolaeth Dr Carl Clowes ac ymddiswyddiad Clive Wolfendale ac ymddeoliad Myrddin ap Dafydd fel aelodau o’r Ymddiriedolaeth penodwyd tri aelod newydd, sef Rhiannon Ceiri, Martyn Croydon a Garffild Lloyd Lewis. Mae darlun cryno o’u cefndir i’w weld yma.

Gyda’u tymor ffurfiol fel aelodau’n dod i ben, ail-etholwyd Jo Iwan, Ann Hughes a Phyllis Ellis am dymor arall o dair blynedd.

Yn dilyn newid swydd, ymddeolodd Menna Jones o fod yn Is-Gadeirydd, tra’n parhau’n aelod o’r Bwrdd.

Ail-benodwyd Huw Jones yn Gadeirydd a Phyllis Ellis yn Ysgrifennydd. Etholwyd Garffild Lloyd Lewis yn Is-Gadeirydd. Byddai’r Bwrdd yn ystyried ymhellach sut orau i lenwi swydd y Trysorydd.

Penodwyd olynwyr Cwmni Owain Bebb (Emyr Mortimer) fel archwilwyr am y flwyddyn ar yr amod bod y cwmni ar ei ffurf newydd yn gymwys i ddygymod â gofynion archwilio. Cytunwyd i ail edrych ar y sefyllfa ar gyfer y dyfodol.