Newyddion

Deugain Mlynedd ers ein Cwrs Cymraeg Gyntaf…….

Deugain Mlynedd ers ein Cwrs Cymraeg Gyntaf…….
……..cystadleuaeth bach i ddathlu!

Mae 2022 yn garreg filltir yn hanes Nant Gwrtheyrn, gyda 40 mlynedd bellach ers cynnal y dosbarth Cymraeg cyntaf. Mae miloedd wedi dilyn y lôn droellog i lawr i’r Nant dros y cyfnod yma, a llawer wedi syrthio mewn cariad gyda’r lleoliad hudol yn ogystal â’r iaith. Be’ well, felly, i ddathlu’r achlysur, na chynnig i 12 dysgwr lwcus i fynychu’r Nant am gwrs blasu preswyl 3 diwrnod ym mis Gorffennaf, a hynny’n rhad ac am ddim. Byddai’r pecyn yn cynnwys cwrs blasu, llety am ddwy noson, prydau bwyd ac adloniant.

I ennill un o’r gwobrau gwych yma, byddai gofyn i’r ymgeiswyr wneud mwy nag ebostio eu henwau i’r Nant. Gan fod pobl am ddod i ddysgu’r Gymraeg am gymaint o wahanol resymau, penderfynwyd i ofyn i’r ymgeiswyr esbonio eu rhesymau dros fod eisiau dysgu Cymraeg. Daeth yn amlwg o ddarllen y cynigion fod straeon pawb yn wahanol, a bod eu rhesymau dros ddysgu’r Gymraeg yr un mor amrywiol hefyd.

Un o’r ymgeiswyr oedd SC, merch o ger Caerffili oedd newydd gwblhau ei blwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd y teulu wedi byw mewn nifer o leoliadau ym Mhrydain a’r Almaen oherwydd swydd ei thad. Wedi symud i Gymru penderfynodd SC yr hoffai allu siarad Cymraeg gyda’i mam, sy’n rhugl yn yr iaith. Hefyd, meddai, “hoffwn allu siarad gyda’r bobl Cymraeg hynny rwyf yn rhyngweithio gyda nhw, yn yr iaith Gymraeg. Rwy’n meddwl ei fod yn bwysig i mi ddysgu siarad Cymraeg os ydw i am fyw yng Nghymru.” Credai hefyd y byddai’n ei galluogi i ymuno mwy ym mywyd Cymreig Aberystwyth.

Roedd KK, o ardal Manceinion, ar y llaw arall, wedi ymweld â Phen Llŷn yn rheolaidd ers dros 35 mlynedd, gan ddod yma gyda’i gŵr a’u tri plentyn i dreulio cyfnodau gwyliau a phenwythnosau. Yn dilyn ei ymddeoliad a chyfnod o waeledd, roedd ei gŵr yn treulio mwy o amser ym Mhen Llŷn a KK yn gobeithio gallu gwneud hyn yn amlach hefyd. Gwelodd y Gymraeg fel rhan annatod o fywyd yma, gan ddweud mai ei “nod yn yr hir-dymor yw i fyw yn yr ardal yn barhaol a byddwn wrth fy modd gallu cyfrannu’n llawn i’r gymuned, ac rwy’n teimlo bod dysgu’r iaith yn hanfodol i alluogi hyn.”

Wrth edrych ymlaen tuag at ei briodas yn Nant Gwrtheyrn yn 2023, dymuniad SA, o Poole, oedd i ddysgu’r iaith er mwyn gallu cyfathrebu’n effeithiol pan fydd ef a’i ddarpar wraig, sydd o Ben Llŷn, yn symud i fyw i Ogledd Cymru y flwyddyn nesaf. Mae SA yn gerddwr brwd ac yn edrych ymlaen at ddiwrnod eu priodas gan ddweud, “y byddai’n gwireddu breuddwyd i allu paratoi a chyflwyno ei araith yn y Gymraeg.”

Dechreuodd SB, o Sir Gaerloyw, ddysgu Cymraeg eleni, ac mae’n cyfaddef i’w siwrnai tuag at ddysgu’r iaith ddod o deledu Cymraeg a llyfrau hanes Cymru hyd yn hyn. Hoffai symud i Gymru yn y dyfodol “a gallu siarad yr iaith yn rhugl i’n ngalluogi i fod yn rhan o’r gymuned ac i gyfrannu at y targed o filiwn o siaradwyr.”

Rheswm JH dros ddysgu’r iaith oedd gwreiddiau Cymreig ei fam. Gadawodd ei fam Gymru am Loegr yn y 1940au ond roedd ei hiraeth bythol am ei gwlad yn amlwg iddo. Ar ei ymddeoliad, gwireddodd JH freuddwyd ei ddiweddar fam gan brynu fferm yn Eifionydd. Roedd am ddysgu Cymraeg i gymryd rhan lawnach ym mywyd ffermio a diwylliannol ei filltir sgwâr newydd. Byddai dysgu’r iaith hefyd yn ei alluogi i gynorthwyo busnesau lleol oherwydd ei arbenigedd yn y maes arloesi.

Syrthio mewn cariad oedd rheswm AG dros ddysgu’r iaith. Hynny yw, syrthio mewn cariad â Chymru yn dilyn ymweliad i dŷ cyfeillion yn Waunfawr ym 1986. Disgrifiodd ei daith hir o’i gartref ym Manceinion, cyrraedd Caernarfon yn hwyr a chael ei groesawu gan fath chwilboeth a lobscows yn Waunfawr, a’i syndod ar ddeffro yn y bore i ddarganfod y pentref a’r mynyddoedd gerllaw dan flanced o eira. Er fod ei “wybodaeth o bobl a diwylliant Cymru tu hwnt i wybodaeth y rhan fwyaf o Saeson”, dywed mai “y rhwystr olaf i’n nghariad yw’r iaith.”

Yn enedigol o Fangor, symudodd EW i Sir Gaer yn 3 oed. Disgrifiodd wyliau ym Mhwllheli gyda’i Nain ‘Saesneg’ a’i syndod o gyfarfod gwraig oedd yn uniaith Gymraeg. Rhannodd hefyd ei thristwch o glywed nad oedd ei Thaid yn cael siarad Cymraeg pan yn yr ysgol. Tra ar daith gerdded gyda ffrindiau ym 1983, daeth ar draws pentref coll, gan ddarganfod yn ddiweddarach mai Nant Gwrtheyrn oedd y pentref hwnnw. Wedi symud i Abertawe erbyn hyn, ei gobaith yw mynychu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2023 fel dysgwr Cymraeg.

Penderfynodd AC beidio astudio’r Gymraeg yn yr ysgol ar gyfer TGAU, ond penderfynodd ail-afael yn yr iaith yn dilyn ymweliad â chyfaill ‘Twitter’ i Gaerdydd gan gael ei hysbrydoli gan yr awyrgylch Cymreig. Rhoddodd gynnig ar sesiynau blasu ar-lein ac mae’n cyfaddef ymarfer ei Chymraeg ar lafar a chanu ‘Yma o Hyd’ tra’n mynd â’r ci am dro yn Sir Gaerwrangon!

Dechreuodd stori DH a’r Gymraeg yn dilyn brathiad gan gi defaid tra’n crwydro cefn gwlad Cymru. Daeth Beti, y wraig fferm, allan i’w hachub a’i chroesawu i’r tŷ.  Gwnaeth argraff ar DH gyda’i gallu i symud yn ddidraffeth o’r Gymraeg i’r Saesneg tra’n sgwrsio. Er iddi dreulio aml i wyliau yng Nghymru nid oedd dysgu’r iaith wedi croesi ei meddwl, ond dechreuodd ddysgu ar-lein ac mae hi’n mwynhau’r profiad yn fawr.

Mae’n amlwg o’r hanesion uchod fod y Gymraeg yn golygu ac yn cynnig gwahanol bethau i wahanol bobl, gyda’r mwyafrif yn gweld dysgu’r iaith fel modd o chwarae rhan lawnach yn eu bywyd yng Nghymru. Mae’r criw fu’n llwyddiannus yn y gystadleuaeth wedi bod yma gyda ni yn y Nant erbyn hyn. Roedd yn bleser i’w croesawu ac, o’u sylwadau, mae’n amlwg eu bod wedi mwynhau y profiad hefyd. Pob lwc iddynt gyda’u taith i ddysgu’r iaith ac edrychwn ymlaen i’w croesawu nhw a miloedd eraill i lawr y lôn droellog i’r Nant dros y pedwar degawd nesaf.