Blogiau

Dysgu Gymraeg yn Santa Barbara

Dysgu Gymraeg yn Santa Barbara

Yr wythnos ddiwethaf bu Pawlie Bryant o Santa Barbara yn dysgu Cymraeg efo ni yn y Nant. 

Ganwyd Pawlie yn Efrog Newydd a’i fagu yn Lloegr.  Symudodd i Galiffornia yn 1984 i fynychu’r Brifysgol yn Santa Barbara.  Dechreuodd siwrna Pawlie gyda’r Gymraeg pan dderbyniodd ei basport Prydeinig nol yn 2022, a sylwi ar y geiriau Cymraeg;  ‘Passport Prydeinig’.  Aeth ati i ddysgu Cymraeg yn fuan wedyn.

Ers hynny mae wedi cwblhau rhai o gyrsiau ac adnoddau’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol.   Does dim llawer o gyfleon iddo ymarfer ei Gymraeg yn Santa Barbara felly mae Pawlie yn ymarfer trwy ddarllen llyfrau Cymraeg, ffrydio S4C a BBC Cymru a gwrando ar gerddoriaeth. 

Dywed Pawlie ei fod yn dwlu ar gerddoriaeth a bod cerddoriaeth wedi chwarae rhan bwysig iawn wrth iddo ddysgu’r Gymraeg.  Eleni rhyddhaodd ei sengl gyntaf Gymraeg; Americanwr Balch.  Mae Pawlie yn disgrifio’r gân fel un tafod-yn-y-boch am agweddau Americanaidd. Mae’r sengl ar gael i’w lawrlwytho, a ffrydio yma:

 https://pawlie.hearnow.com/americanwr-balch

Llongyfarchiadau Pawlie, rywt ti’n ysbrydoliaeth i ni gyd.