Mae Nant Gwrtheyrn neu “y Nant” fel y’i gelwir ar lafar gwlad, yn le hudolus wedi’i leoli mewn hen bentref chwarelyddol ar arfordir gogleddol Penrhyn Llŷn yng ngogledd Cymru.
Yn dilyn buddsoddiad sylweddol o £5m yn ystod y blynyddoedd diweddar, mae’r pentref Fictoraidd diarffordd wedi cael ei adnewyddu’n llwyr trwy greu ffordd fynediad newydd, canolfan briodasau a chynadledda, yn ogystal â llety grŵp 4* ar gyfer hyd at 120 o westeion. Mae Nant Gwrtheyrn bellach yn denu dros 30,000 o ymwelwyr dyddiol y flwyddyn ac ystod eang o grwpiau preswyl.