Swyddi

Swyddi

Croeso i dudalen swyddi Nant Gwrtheyrn. Mae ein canolfan dreftadaeth unigryw, wedi’i lleoli yng nghanol harddwch naturiol Pen Llŷn ac yn cynnig amgylchedd bywiog ac ysbrydoledig i’n hymwelwyr ac i’n tîm.
Credwn fod llwyddiant yn deillio o angerdd ac ymrwymiad ein staff. P’un a ydych yn weithiwr profiadol neu’n dechrau ar eich taith, mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyfleoedd cyffrous ac amrywiol. Rydym bob amser yn chwilio am unigolion brwdfrydig sy’n rhannu ein gweledigaeth ac sy’n awyddus i gyfrannu at ein cenhadaeth.
Dyma ein swyddi gwag presennol a gwybodaeth am sut y gallwch ddod yn rhan o’n tîm. Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Nant Gwrtheyrn!
  • Swyddog Blaen Tŷ (Lefel 2) gyda phwyslais penodol ar waith bar

    Lleoliad: Nant Gwrtheyrn

    Hyd Cytundeb: Swydd Barhaol neu Achlysurol

    Atebol i: Arweinydd Arlwyo

     

    Pwrpas y Swydd:  Cynorthwyo gyda agweddau o waith Blaen Ty/Arlwyo gyda phwyslais penodol ar waith y bar er mwyn sicrhau rhediad llyfn ac esmwyth yr adran a bod cwsmeriaid y Nant yn cael y gwasanaeth a'r profiad gorau posib pob amser.

     

    Prif Gyfrifoldebau:  

    • Gweithio ar y bar yn ystod digwyddiadau a phriodasau
    • Gweithio yng Nghaffi Meinir yn achlysurol
    • Paratoi diodydd gyda alcohol a diodydd heb alcohol yn gywir ac yn gyflym.
    • Defnyddio offer y bar e.e tapiau cwrw ac ysgydwyr coctels i baratoi diodydd.
    • Cynorthwyo i gynnal safonau Iechyd a Diogelwch.
    • Sicrhau profiad arbennig gofal cwsmer o'r safon orau ym mhob agwedd a chynnal awyrgylch cyfeillgar.
    • Trin taliadau yn effeithiol a hynny ar adegau dan bwysau bar prysur.
    • Olrhain lefelau stoc, ail stocio yn ôl y gofyn mewn cydweithrediad â'r Arwieinydd Arlwyo.
    • Defnyddio'r tiliau a chymeryd arian a thaliadau cerdyn ar adegau sy'n medru bod yn brysur.
    • Sicrhau glendid ym mhob agwedd berthnasol i'r swydd.
    • Y gallu i weithio gyda'r nos ac ar ben wythnosau'n hanfodol.
    • Cynorthwyo i sicrhau fod rheolau iechyd a diogelwch a hylendid bwyd yn cael eu gweithredu a mynychu cyrsiau cysylltiedig â'r uchod fel bod angen.
    • Casglu gwydrau yn barhaus yn ystod y shifft a glanhau gofodau gwaith e.e. golchi gwydrau a byrddau a'r bar.
    • Mynychu cyfarfodydd yr adran arlwyo yn ôl y galw.
    • Cysylltu hefo llinell gymorth technegol ein partneriaid fel bo angen er mwyn datrys problemau technegol (EPO NOW, OES ayyb).
    • Ymgymryd â hyfforddiant datblygiad personol.
    • Gweithio mewn modd cyfrinachol ac o fewn rheolau'r Ddeddf Gwarchod Data. 
    • Cynorthwyo i sicrhau gwasanaeth o'r ansawdd uchaf yn mhob agwedd o weithgaredd y Cwmni.
    • Unrhyw waith rhesymol arall - gall y disgrifiad swydd hwn newid neu gael ei ddiwygio ar unrhyw amser ar ôl ymgynghori â deiliad y swydd.

    Os hoffech fwy o wybodaeth neu sgwrs bellach cysylltwch gyda marchnata@nantgwrtheyrn.org.

     

     

Os oes diddordeb gyda chi ddod i weithio yn Y Nant, gyrrwch eich CV draw ac mi wnawn ni eich cadw mewn cof pan mae swyddi yn agor.