siwan.tomos@nantgwrtheyrn.org
Pwy 'Di Pwy
Ein Ymddiriedolaeth

-
Huw Jones - Cadeirydd
Yn ystod ei yrfa amrywiol mae Huw Jones wedi bod yn ganwr pop ac yn gyflwynydd a chynhyrchydd teledu. Roedd yn un o sylfaenwyr cwmnïau Sain, Barcud a Theledu’r Tir Glas cyn dod yn Brif Weithredwr S4C rhwng 1994 a 2005. Bu’n aelod o fyrddau cyrff megis Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Cyfle, yr RSPB a Bwrdd Cyflogaeth a Sgiliau Cymru ac yn Gadeirydd S4C rhwng 2011 a 2019. Ar hyn o bryd, mae hefyd yn Gadeirydd Portmeirion Cyf. Mae’n byw yn Llandwrog, Gwynedd. Cyhoeddwyd ei hunangofiant “Dwi Isio Bod yn…” gan Y Lolfa yn 2020. Mae wedi bod yn aelod o Fwrdd Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn ers 2007. Penodwyd ef yn Gadeirydd ym mis Gorffennaf 2018.
-
Garffild Lloyd Lewis - Is Gadeirydd ac Ysgrifennydd
Mae gan Garffild brofiad helaeth mewn nifer o feysydd gan gynnwys Newyddiaduraeth, Cyfathrebu, Marchnata, Hyfforddi a Rheoli Prosiectau Strategol. Bu’n newyddiadurwr, hyfforddwr a rheolwr gyda BBC Cymru am 25 o flynyddoedd cyn sefydlu ei gwmni ei hun ym meysydd ymgynghori strategol a hyfforddi. Yna fe ymunodd â S4C yn 2009 yn gyntaf fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu a Marchnata ac yna yn Gyfarwyddwr Prosiectau ac Adleoli. Garffild oedd Cyfarwyddwr y prosiect i adleoli pencadlys S4C i ganolfan greadigol yr Egin yng Nghaerfyrddin.
Yn 2017 ar ol gadael S4C fe ymunodd â chwmni ymgynghorol ei wraig, Sian Eirian Cyf – cwmni sy’n arbenigo ym meysydd y Gymraeg, y Celfyddydau, y Cyfryngau a Digwyddiadau. Yn 2017 hefyd cafodd ei ethol yn Gynghorydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ac yn aelod o’r Cabinet am ddwy flynedd – yn gyfrifol am Addysg, Sgiliau a Chyflogadwyedd a’r Gymraeg. Bu hefyd yn Gadeirydd Fforwm Strategol y Gymraeg y Sir, ac yn Arweinydd Bwrdd Sgiliau’r Awdurdod.
Fe roddodd y gorau i fod yn Gynghorydd Sir ym mis Mai 2022 er mwyn canolbwyntio ar waith y cwmni.
-
Gwyn Jones - Trysorydd
Mae Gwyn yn wreiddiol o ardal Penuwch, Ceredigion ac yn byw yn Aberaeron ers1987.
Cyn ymddeol yn 2015 roedd Gwyn yn Gyfarwyddwr Strategol Adnoddau Corfforaethol Cyngor Sir Ceredigion gyda chyfrifoldeb am holl ochr ariannol y Sir yn ogystal ag am Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, a’r gwasanaethau cyfreithiol, adnoddau dynol; democrataidd; llyfrgelloedd; amgueddfa; archifdy; cofrestru a chanolfannau croeso.
Mae ganddo brofiad maith yn y maes ariannol a gwasanaeth cyhoeddus gan iddo cyn hynny fod yn Gyfarwyddwr Cyllid Cyngor Ceredigion ac yn Brif Archwilydd Mewnol. Bu’n gweithredu fel Trysorydd Mygedol Cyngor Llyfrau Cymru, ac mae ganddo gymwysterau ACCA a FCCA.
Bu’n aelod o fwrdd Theatr Genedlaethol Cymru ac mae’n Ymddiriedolwr i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen a nifer fawr o gymdeithasau lleol yng Ngheredigion.
Yn gyn-chwaraewr rygbi, mae ei ddiddordebau bellach yn fwy hamddennol, gan gynnwys bowlio, seiclo, cerdded, y theatr, opera a gweithio ar ei randir.
Etholwyd yn 2023.
-
Jo Iwan
Cafodd Jo ei magu yn Waunfawr ger Caernarfon, gan ddysgu Cymraeg yn yr Ysgol Feithrin ac yn yr ysgol, cyn symud i Gaerdydd i astudio a gweithio ym myd y cyfryngau. Bu hefyd yn gwneud gwaith marchnata i’r cwmni theatr blaengar Brith Gof ac yn datblygu ei phrosiectau creadigol ei hun ym maes tecstiliau.
Symudodd i Lundin lle bu’n gweithio i Sky Sports a Sky Movies, gan arwain timau hyrwyddo creadigol ac, fel cyfarwyddwr aml-gamera, yn teithio i America i weithio ar yr Oscars ac yn rheoli prosiect ffasiwn amlgyfryngol yn Nhokyo gyda’r grŵp cydweithredol Acid Casuals.
Mae hi nawr yn byw gyda’i theulu yng Nghaerdydd. Ar ôl gweithio i adran Hysbysebu Granada o fewn S4C Rhyngwladol yn cynhyrchu hysbysebion dwyieithog, cafodd swydd fel cynhyrchydd gyda Wordley Creative lle mae hi nawr yn Gyfarwyddwr Creadigol ac yn berchennog, yn creu hysbysebion teledu ac yn cynghori cwmnïau Prydeinig a rhyngwladol ar sut i safleoli eu hunain fel brandiau. Mae’n aelod o Fwrdd yr Ymddiriedolaeth ers 2019.
-
Martyn Croydon
Yn wreiddiol o Kidderminster, symudodd Martyn i Lŷn yn 2009 ar ôl dod i’r ardal ar wyliau trwy gydol ei blentyndod. Mae o bellach yn byw yn Llannor ger Pwllheli efo’i deulu. Dechreuodd o ddysgu Cymraeg cyn symud i Gymru ac ar ôl llwyddo i basio arholiad lefel-A Cymraeg ail iaith a chwblhau cymhwyster TBAR, dechreuodd o weithio fel tiwtor Cymraeg yn 2012. Enillodd wobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2013 yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych. Mae o wrth ei fodd yn dysgu dosbarthiadau Cymraeg ar bob lefel ac yn helpu pobl eraill i ddod yn siaradwyr Cymraeg.
-
Rhiannon Ceiri
Cafodd Rhiannon ei magu nes yn 9 oed, ym mhentref Llanaelhaearn, tafliad carreg o’r Nant, cyn symud i Roscefnhir ym Môn.
Celf a dylunio yw’r maes mae’n arbenigo ynddo. Wedi derbyn gradd mewn Tecstiliau (gwau a gwehyddu) o Brifysgol John Moores yn Lerpwl, symudodd i Gaerdydd a setlo yn Grangetown gyda’i theulu.
Cychwynnodd ei gyrfa ar ôl graddio yn gweithio i ‘Gad-y-Gwlân’ fel dylunydd a gwneuthurwr. Bu wedyn yn gweithio i Gwmni Theatr Brith Gôf yn yr adran wisgoedd ac yna fel Rheolwr Llwyfan.
Tua diwedd y 90’au a thrwy gydol y 2000’au, bu’n gweithio gyda Chwmni Rheoli Ankst gyda amrywiaeth o fandiau o Gymru a thu hwnt, gan roi’r cyfle i drafaelio fel rhan o’r tîm rheoli i Japan ag Ewrop a gweithio’n agos gyda phartneriaid yn y maes led-led y byd.
Mae bellach yn ymarferwr llawrydd ac wedi bod yn gweithio am gyfnod fel Cyfarwyddwr Celf i gwmni cynhyrchu yng Nghaerdydd.
Yn bresennol, mae’n gweithio’n bennaf fel dylunydd gyda chwmni dylunio mewnol sy’n ei galluogi i fwynhau cyfleon i weithio gyda phersonel o bob agwedd o waith dylunio mewnol, o’r penseiri i’r rheolwyr prosiectau, i’r gweithwyr ar y safle yn ogystal â chyflenwyr o Gymru a phob cornel o Ewrop.
-
Dafydd Evans
Mae Dafydd Evans newydd ymddeol o fod yn Brif Weithredwr Grŵp Llandrillo Menai, prif ddarparwyr addysg ddwyieithog yn y sector addysg bellach. Cyn hynny, bu’n Bennaeth Coleg Llandrillo (Awst 2014 – Awst 2016) ac cyn Bennaeth Coleg Menai (Gorffennaf 2009 – Awst 2014).
Ar ôl graddio mewn Ystadegaeth ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, aeth ymlaen i gymhwyso'n gyfrifydd gyda CIPFA.
Fel Asesydd Cyswllt i ESTYN, mae wedi ymwneud ag arolygu sawl coleg ac, yn y gorffennol, cafodd secondiad i wneud gwaith datblygu i Lywodraeth Cynulliad Cymru ar ddyrannu adnoddau ac ad-drefnu sector ôl- 16 yng Ngwynedd a Môn.
Mae Dafydd yn gyn-Gadeirydd i Colegau Cymru yn ystod pandemic COVID. Bellach mae yn gwneud gwaith ymgynghorol yn cefnogi y sector gyhoeddus ar reoli newid.
-
Aled Hughes
Wedi ei eni a’i fagu yn Llanbedrog yn Llŷn – mae’n dweud fod iaith, treftadaeth a diwylliant yr ardal yn hollbwysig iddo ac yn rhan fawr iawn o’i hunaniaeth fel Cymro. Fe ymunodd â’r BBC fel newyddiadurwr yng Nghaerdydd yn 2004 ac ers 2016 mae’n cyflwyno rhaglen foreol gyffredinol ar BBC Radio Cymru. Mae stori’r Nant, a’r weledigaeth wreiddiol ar gyfer ffurfio canolfan iaith, yn ei ysbrydoli o hyd. Fel un sydd yn ymfalchio ac yn annog siaradwyr newydd, mae’n llwyr ymwybodol o’r rhan fawr sydd gan Nant Gwrtheyrn ym mywydau ac yng nghalonnau’r rheini sy’ wedi bod yno i ddysgu Cymraeg. Tu hwnt i hynny, mae lleoliad a chyfleusterau’r Nant yn ei wneud yn rhywle unigryw yng Nghymru - pluen falch iawn yn het y genedl. Braint, anrhydedd a chyfrifoldeb yw cael bod yn ymddiriedolwr sy’n cynrychioli yr holl werthoedd uchod.
-
Mared Llywelyn
Daw Mared o Forfa Nefyn ac wedi cyfnod yn astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth daeth yn ôl i Lŷn. Un o’i hoff olygfeydd yw edrych draw am y Nant, Carreg Llam a’r Eifl o Borthdinllaen.
Mae’n gweithio fel Swyddog Addysg a Gwirfoddoli yng nghanolfan dreftadaeth Plas Carmel, Anelog ym mhendraw Llŷn. Yn ddramodydd, llenor ac actor, mae hi hefyd yn arwain sesiynau creadigol i blant ac oedolion, ac wedi cael y pleser o arwain dau gwrs ar y Ffilm Gymraeg yn y Nant.
Ynghŷd a’i gwaith diweddar mae Croendena (dramodydd) Taigh/Tŷ/Teach (dramodydd) a Parti Priodas (actor).
Mae’n is-gadeirydd ar Fwrdd Cwmni Theatr Bara Caws, is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Morfa Nefyn ac yn Gadeirydd Cyngor Tref Nefyn.
Bu’n ymgyrchu’n frwd gyda Hawl i Fyw Adra. Hi hefyd yw golygydd Y Tafod, cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith.
Ein Staff
Rydym yn un o’r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal ac yn cyflogi dros 20 o staff.
-
Siwan Tomos - Rheolwr Addysg
-
Arwel Roberts - Rheolwr Cyllid
cyllid@nantgwrtheyrn.org
-
Lisa Pyrs - Arweinydd Cyfathrebu a Marchnata
marchnata@nantgwrtheyrn.org
-
Llinos Pritchard - Arweinydd Llety a Safle
llety@nantgwrtheyrn.org
-
Mared Grug - Uwch Swyddog Prosiect Cymraeg Gwaith
mared@nantgwrtheyrn.org
-
Shân Jones - Tiwtor
shan@nantgwrtheyrn.org
-
Miriam Grant - Cydlynydd Busnes
miriam@nantgwrtheyrn.org
-
Emma Wynne - Cydlynydd Priodasau a Digwyddiadau
Yr Adran Addysg
Mae Adran Addysg Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau dwys ar holl ystod y lefelau dysgu Cymraeg cenedlaethol; o gyrsiau Blasu dros dridiau hyd at gyrsiau pum-niwrnod ar lefelau Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Gloywi. Rydym yn arbenigo ar gyflwyno cyrsiau preswyl dwys, gan roi profiad cyflawn o ddysgu’r iaith yn un o’i chadarnleoedd naturiol yma ym Mhen Llŷn. Yn ddiweddar, rydym hefyd wedi datblygu cyrsiau rhithiol dwys, sydd bellach yn ein galluogi i rannu ein darpariaeth unigryw â dysgwyr o bedwar ban byd.
Mae gennym dîm o diwtoriaid profiadol sydd wedi cyflwyno’r iaith yn llwyddiannus i filoedd o ddysgwyr, gan ddefnyddio dulliau dysgu unigryw sy’n cyfrannu at brofiad dysgu arbennig.
Rydym hefyd yn gyfrifol am ddysgu cyrsiau dwys ‘Defnyddio’ prosiect Cymraeg Gwaith y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn flynyddol, sef cyrsiau preswyl / rhithiol wedi eu cyllido’n llawn ac â’r nod o gynyddu defnydd y Gymraeg yng ngweithleoedd Cymru a, thrwy hynny, gyfrannu at nod Llywodraeth Cymru o greu miliwn o siaradwyr y Gymraeg erbyn 2050.