Llety unigryw ar Benrhyn Llŷn
Yn wahanol i westai arferol, mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig llety cwbl unigryw. Profwch hud a lledrith y Nant wrth aros mewn lleoliad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a threftadaeth ein gwlad. Profwch fyd natur, daeareg, hanes a’r iaith Gymraeg i gyd o fewn y dyffryn arbennig hwn.
Y lleoliad perffaith ar gyfer ymweliadau addysgol, gwyliau gyda ffrindiau neu deulu, cynhadledd breswyl neu ddihangfa ramantus…

-
Gwely a Brecwast
Ymlaciwch yn ein hystafelloedd en-suite 4* (Llety Grŵp, Croeso Cymru).
Mae’r 24 o fythynnod teras a godwyd yn 1860 yn Nant Gwrtheyrn wedi cael eu trosi yn llety moethus unigryw.
-
Llety Grŵp
Gall amryw o grwpiau aros yma yn Nant Gwrtheyrn yn ein llety grŵp unigryw – o fod yn grwpiau addysgiadol, cerdded, diddordebau arbennig, priodasau, partïon, cynadleddau a grwpiau ar wyliau…
Ystafelloedd yn cysgu hyd at 5 o bobl ynghyd â defnydd o neuadd aml bwrpas.
-
Hunan arlwyo
Mwynhewch wyliau ymlaciol, gyda golygfeydd godidog o’r môr, ym mythynnod Nant Gwrtheyrn – Mae’r bythynnod o fewn pellter cerdded i draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, ac mae’r dafarn a’r siop agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen.
Ystafelloedd Sengl
Os am archebu ystafell i un person cysylltwch â ni:
Ffôn: 01758 750 334
E-bost: post@nantgwrtheyrn.org

Safle
1. Y Neuadd
2. Trem y Mynydd
3. Trem y Môr
4. Tŷ Canol + Sgubor
5. Caffi Meinir
6. Cae Canol
7. Capel
8. Swyddfa