Canolfan Gynadledda yng Ngogledd Cymru

Mae Nant Gwrtheyrn yn gallu darparu cyfleusterau ar gyfer cynadleddau, cyfarfodydd, digwyddiadau, ciniawa, partïon neu achlysuron cymdeithasol.

  • Ein cyfleusterau

    Venue

    Mae lle i 146 eistedd yn y neuadd fawr am bryd o fwyd, a lle i 200 ar gyfer cyngerdd neu hyfforddiant, gyda’r cadeiriau wedi eu gosod yn rhesi.

    Mae lle i hyd at 60 eistedd yn y caffi gydag ychwaneg o le i eistedd yn y tŷ gwydyr neu allan ar y teras.

    Mae drysau o’r caffi a’r brif neuadd yn agor allan ar deras haul lle ceir golygfeydd trawiadol o’r bae.

    Gellir rhannu’r brif neuadd yn dair stafell a cheir gwanhad acwsteg digonol i fedru cynnal dau neu dri chyfarfod yr un pryd neu gyfarfod yn un rhan o’r neuadd gyda chyfleusterau bwyta yn y llall.

    Gall grwpiau mwy ddefnyddio’r capel, Tŷ Canol a’r ganolfan Addysg y Plas yn ogystal, lle ceir stafelloedd ar gyfer 60, 20 neu 15 o gynrychiolwyr.

  • Ein Hadnoddau

    Venue

    Mae adnoddau ar gael ar gyfer cynhadleddau a chyfarfodydd, yn amrywio o fyrddau gwyn rhyngweithiol a thaflunwyr i siartiau fflip, yn ogystal â systemau sain a goleuo. Mae cysylltiad WiFi ar gael am ddim yn y brif Neuadd, y caffi,Tŷ Canol a’r Plas a cheir cysylltiad â’r rhyngrwyd trwy gêbl yn y neuadd hefyd.

    Mae system glywed dolen wedi’i gosod yn y brif neuadd ac mae system symudol ar gael ar gyfer stafelloedd eraill. Gall defnyddwyr cadeiriau olwyn fynd i bob adeilad a theithio ar hyd pob llwybr ar y safle a cheir lifft yn adeilad y Plas. Mae llety gyda chyfleusterau stafell wlyb ar gyfer pobl llai abl ar gael hefyd.

  • Staff wrth law i helpu

    Venue

    Y mae pob digwyddiad yn y Nant yn unigryw a bydd ein staff profiadol yn helpu i gynllunio a rheoli eich digwyddiad chi. Ambell waith mae’n bosibl y cynhelir mwy nag un digwyddiad yr un pryd ac y bydd ymwelwyr dyddiol ar y safle hefyd, felly mae angen i ni fod yn rhan o gynllunio gofalus ar gyfer pob digwyddiad yn y Nant.

  • Cynadleddau Preswyl

    Venue

    Neuadd y Nant ydy’r lle delfrydol i gynnal cynhadledd, cyfarfod neu ddiwrnod hyfforddiant mewn lleoliad trawiadol. Mae’r cyfuniad o lety o safon uchel, adnoddau gwerth chweil a llonydd perffaith heb ddim i darfu arnoch chi yn creu lleoliad unigryw a chofiadwy ar gyfer amrywiaeth o fudiadau.

    Bydd cyrsiau hyfforddiant rheolaeth yn manteisio ar y lleoliad gwledig ac yn cynnal gemau a thasgau ar ein safle 250 erw, sy’n cynnwys ein traeth a’n coedwig ein hunain, yn ogystal â llwybrau ar hyd yr arfordir.

    Gellir gosod y brif neuadd a’r stafelloedd cyfarfod eraill mewn nifer o batrymau eistedd gwahanol, yn amrywio o gadeiriau wedi eu gosod o gwmpas bwrdd, mewn rhesi yn null theatr, neu yn null stafell ddosbarth, a cheir stafelloedd addas ar gyfer grwpiau yn amrywio yn eu maint o 10 i 200.

  • Llogi canolfan bartïon a digwyddiadau yng Ngogledd Cymru

    Venue

    Mae Nant Gwrtheyrn yn lleoliad anhygoel ar gyfer dathliad. Rydym yn croesawu partïon pen-blwydd a phen-blwydd priodas a dathliadau teuluol eraill, yn ogystal â chiniawau clwb, digwyddiadau tei ddu a digwyddiadau codi arian. 

    Ceir dewis o wahanol fwydlenni a phatrymau eistedd ar gyfer y rhan fwyaf o ddigwyddiadau – o nosweithiau cabaret ar gyfer 146 o bobl gyda byrddau crynion a llwyfan yn un pen i’r neuadd, i giniawau neu fwffe mwy ffurfiol. Gellir trefnu stafelloedd bwyta preifat ar gyfer partïon llai trwy rannu’r brif neuadd yn stafelloedd o faint addas ar gyfer nifer y mynychwyr.

    Gallwn roi gwybodaeth i chi am wahanol fathau o adloniant, yn amrywio o dân gwyllt i adloniant cerddorol, ac mae ein cyfleusterau yn cynnwys systemau sain a goleuo modern a thaflunyddion ar gyfer ffilmiau a chysylltu â’r rhyngrwyd.

    Mae’r ffaith bod llety ar gael i’ch gwesteion ar y safle am bris cystadleuol yn gwneud y Nant yn lleoliad deniadol iawn ar gyfer eich dathliad neu ddigwyddiad.

    Os am gynnal digwyddiad mwy neu ŵyl, gellir cael lle ychwanegol mewn pebyll neu farcî ar sgwâr y pentref, neu ddefnyddio’r llecyn o gwmpas y llwyfan awyr agored.

    Cysylltwch â ni i drafod eich anghenion os gwelwch yn dda.