Cyrsiau Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn

Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn ddarparwr sy’n cynnig cyrsiau preswyl ar safle unigryw hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn ar benrhyn Llŷn.

Classroom setting

Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyrsiau ar ddwy ffrwd ddysgu -

Cyrsiau Prif Ffrwd:

Cyrsiau ar lefelau Mynediad 1, Mynediad 2, Sylfaen 1, Sylfaen 2, Canolradd, Uwch 1, Uwch 2 yn ogystal â chwrs thematig newydd o'r enw 'Gorwelion Newydd' ar gyfer eleni.  Mae cost i'r cyrsiau hyn ac maent yn agored i unrhyw un gofrestru arnynt.  Gallwch gofrestru i aros ar gwrs ar delerau lluniaeth llawn neu deithio'n ddyddiol, gweler fwy o wybodaeth isod.

 

Cymraeg Gwaith:

'Defnyddio'

Cyrsiau ar lefelau Sylfaen Uchel, Canolradd, Uwch, Gloywi - Siarad a Gloywi - Ysgrifennu ar gyfer unigolion sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith wedi eu cyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae modd archebu ar gwrs fel unigolyn neu gallwch archebu cwrs sectorol ar gyfer grŵp o weithwyr penodol. Nod y cyrsiau yma yw cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.  Mae'n rhaid cael sgwrs dros y ffôn er mwyn sicrhau bod lefel y cwrs yn addas cyn y gallwch gofrestru.  

 

Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Mae’r cyrsiau hyn wedi eu cyllido yn llawn ac yn benodol ar gyfer staff yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.  Mae'r ddarpariaeth yn amrywio o gyrsiau Mynediad i gyrsiau ar gyfer pobl sy’n gallu siarad lefel dda o Gymraeg (Sylfaen Uchel / Canolradd/Uwch a Gloywi) ond a hoffai fwy o ymarfer a chefnogaeth i fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg yn y gwaith. Bydd gwersi gyda thiwtor arbenigol a digon o gyfleoedd i fwynhau ymarfer siarad Cymraeg. Bydd rhaglen o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cefnogi’r dysgu, gan gynnwys sesiynau yoga, meddylgarwch, adloniant cerddorol gyda’r nos a theithiau tywys ar hyd yr arfordir.  

 

Gweithlu Addysg

Rydym yn cynnig cyrsiau ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru ar lefel Mynediad, Sylfaen, Canolradd, Uwch a Gloywi.  Mae'r cyrsiau hyn yn benodol ar gyfer unigolion sy'n gweithio mewn ysgolion yng Nghymru.  Cysylltwch am fwy o wybodaeth.  Mae'r cyrsiau hyn hefyd wedi eu cyllido yn llawn ac mae grant tuag at gostau cyflenwi hefyd ar gael.

Pecynnau Croeso a Pholisïau

Adroddiad Estyn

Er mwyn cael gwybod mwy am ddarpariaeth Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn, gweler ein hadroddiad Estyn, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2024.

Photo of learners in the classroom conversing with the tutor.

Trochi

Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfle i bobl ymarfer pob sgil ieithyddol – siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu – ond rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu hyder i siarad yr iaith, drwy eich annog i fanteisio ar bob cyfle i ymarfer eich Cymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Nant.  Mae ein tiwtoriaid profiadol yn gallu addasu rhywfaint ar gynnwys bob cwrs yn unol ag anghenion y grŵp. Rydym yn rheoli maint y dosbarthiadau er mwyn medru cefnogi pob dysgwr yn ystod y cwrs.

Rhestr Aros - Cyrsiau Prif Ffrwd

Mae ein cyrsiau prif ffrwd yn Nant Gwrtheyrn yn boblogaidd iawn ac yn aml yn llenwi’n gyflym. Eich cyfle gorau o sicrhau lle ar gwrs yw cofrestru pan mae'r dyddiadau yn cael eu rhyddhau am y flwyddyn academaidd ym mis Mai.

Os yw cwrs yn llawn:

  • Bydd blwch llwyd wedi'i labelu 'Mynegi Diddordeb' yn ymddangos yn hytrach na botwm gwyrdd 'Cofrestru'.
  • Dewisiwch y botwm hwn a mewnbynnwch eich manylion i ymuno â'r rhestr aros. Bydd angen i chi wneud hyn ar gyfer pob cwrs yr hoffech ymuno â'r rhestr aros ar ei gyfer.
  • Os daw lle ar gael ar y cwrs, byddwn yn hysbysu pawb ar y rhestr aros drwy e-bost a bydd y lle ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.
  • Er mwyn sicrhau lle, bydd angen i chi gofrestru drwy’r glicio ar y ddolen gofrestru yn yr e-bost cyn gynted â phosibl. Os ydych chi'n rhagweld cael trafferth cofrestru ar lein oherwydd rhesymau hygyrchedd, bydd opsiwn i chi ffonio'r swyddfa i gofrestru hefyd.
  • Os na fyddwch yn llwyddo i sicrhau lle, bydd eich enw’n aros ar y rhestr aros.

 

Yn anffodus, ni allwn ragweld eich siawns o gael lle ar gwrs. Rydym yn argymell eich bod yn cadw llygad ar eich e-byst am unrhyw ddiweddariadau.

Rydym yn ddeall bod methu cael lle ar gwrs yr oeddech chi'n dymuno cael lle arno yn brofiad siomedig a rhwystredig ond yn anffodus, dim ond hyn a hyn o gyrsiau y mae modd i ni eu cynnal o fewn ein cyllideb grant ac o fewn capasati y safle.  Rydym yn ymdrechu ein gorau i gynnal cyn gymaint o gyrsiau â phosib er mwyn diwallu'r galw uchel.  Byddem yn gwerthfawrogi eich amynedd, eich caredigrwydd a'ch dealltwriaeth yn ystod y broses hon.

Os hoffech gael sgwrs i drafod eich lefel cyn ymuno â’r rhestr aros, cysylltwch â ni neu dilynwch y ddolen isod:

Sgwrs gyda thiwtor i drafod eich lefel

Os hoffech gael sgwrs am eich lefel, cysylltwch â ni neu defnyddiwch y botwm isod:

 

addysg@nantgwrtheyrn.org 
01758750334 gan ddewis opsiwn 3 ar gyfer yr Adran Addysg

 

Os ydych chi’n rhagweld y byddwch chi’n cael trafferth cofrestru ar lein ar gwrs, rydym yn eich annog i gysylltu â ni ymlaen llaw i drafod eich anghenion hygyrchedd penodol ac i wneud trefniadau eraill os oes angen.

Cynllun Talu

Wrth i chi archebu lle ar gwrs, bydd gofyn i chi dalu wrth gofrestru

Wrth i chi archebu lle ar gwrs, bydd gofyn i chi dalu wrth gofrestru.
Os nad yw hyn yn bosib - rydym yn gallu cynnig opsiwn 'Talu mewn Tri' i helpu i ledaenu'r gost. I ddefnyddio'r opsiwn hwn, cysylltwch â ni cyn cofrestru i ofyn am god.

Ar ôl cofrestru gyda’r cod, byddwn yn anfon cynllun talu atoch yn dangos sut mae’r ffi yn cael ei rannu’n dri rhandaliad. Gallwch dalu drwy drosglwyddiad banc neu dros y ffôn.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach:
addysg@nantgwrtheyrn.org 
01758 750 334 a dewis opsiwn 3 ar gyfer yr Adran Addysg

Tocynnau Anrheg ar gyfer Cyrsiau

Archebu a Defnyddio eich Tocynnau Anrheg

 

Chwilio am anrheg i ddysgwr Cymraeg?
Rydym yn cynnig tocynnau anrheg o unrhyw werth tuag at gost cwrs. Mae tocynnau anrheg ar gael naill ai'n ddigidol neu i'w postio drwy'r post.

Defnyddio y tocyn anrheg
Os oes gennych docyn anrheg yr hoffech ei ddefnyddio i dalu am gwrs, cysylltwch â ni cyn cofrestru i ofyn am god.

Ar ôl i chi gofrestru, byddwn ni’n ychwanegu'r tocyn anrheg at eich cwrs. Os nad yw’r tocyn anrheg yn talu’r swm llawn, gallwch dalu unrhyw falans sy’n weddill drwy eich cyfrif Dysgu Cymraeg neu dros y ffôn.

Cysylltwch â ni os hoffech archebu tocyn anrheg neu drafod hyn ymhellach:
addysg@nantgwrtheyrn.org 
01758 750 334 a dewis opsiwn 3 ar gyfer yr Adran Addysg

Ydych chi'n byw yng Ngwynedd neu ym Môn?

Cynnig dyddiol arbennig i drigolion lleol

Manteisiwch ar ein cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn. Os ydych yn byw* yn lleol gallwch ddod ar gwrs a theithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. Y pris yw £185 am gwrs 5 niwrnod.  Nid yw llety wedi ei gynnwys.  Bydd cinio o ddydd Llun i ddydd Gwener wedi ei gynnwys a swper ar y nos Fawrth pan fydd adloniant.

*Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn. Os nad yw eich prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn y pris i deithio yn ddyddiol yw £356 am gwrs 5 niwrnod.   Byddwn yn gwirio eich cyfeiriad wedi i chi gofrestru.

Bydd modd i chi ddewis yr opsiwn hwn fel 'Opsiwn Ychwanegol' wrth gofrestru.  Wrth ddewis yr opsiwn, byddwch yn derbyn y gostyngiad mewn pris ac yna'n gallu bwrw mlaen i dalu.

Cysylltwch â ni os hoffech drafod hyn ymhellach:
addysg@nantgwrtheyrn.org 
01758 750 334 a dewis opsiwn 3 ar gyfer yr Adran Addysg

*Ydy eich cyflogwr yn talu am eich cwrs prif ffrwd?

*Pwysig: Yn ddibynnol ar eich lefel, efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer cwrs wedi’i ariannu’n llawn drwy’r cynllun Cymraeg Gwaith ond nid oes modd i’r cynllun hwnnw dalu am gwrs prif ffrwd, byddai’n rhaid i chi ddod ar gwrs Cymraeg Gwaith penodol.

 

Os yw eich cyflogwr yn hapus i dalu am eich cwrs prif ffrwd, gallwch nodi hyn yng ngham 5 o’r broses gofrestru drwy ddewis ‘Cyllido gan y gwaith’ o dan ‘Rheswm dros ymrestru’.

Rhowch gyfeiriad e‑bost y person o fewn eich gweithle sy’n gyfrifol am y taliad, fel y gallwn drefnu anfon anfoneb yn uniongyrchol atyn nhw.

Cysylltwch â cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org am fwy o fanylion.

Rhaglen Gyrsiau Prif Ffrwd 2026-27

Dyma gyfle gwych i ddysgu Cymraeg gyda ni, naill ai yn ein canolfan ym Mhen Llŷn, neu yng nghysur eich cartref eich hun. Dewiswch eich lefel a chofrestrwch. 

Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol ac mae ffeiliau cwrs unigryw gyda ni. Mae’r cyrsiau hyn yn cefnogi'r cyrsiau cenedlaethol sy'n cael eu dysgu gan ddarparwyr prif ffrwd eraill. Mae'n ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill yr ydych yn eu gwneud.  Mae dewis y cwrs cywir yn bwysig felly os nad ydych yn siwr o ba lefel i ddewis cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. Bydd un o'n tiwtoriaid yn falch iawn o gynnig cyngor.  

Pwysig: Mae'r cwrs Gorwelion Newydd yn cymryd lle ein hen gwrs Uwch 2.  Bydd y cwrs Uwch 2 eleni yn dilyn ein cwrs Uwch 1 ac yn debycach i'r cwrs Uwch 2 cenedlaethol.  Y cwrs Gorwelion Newydd bellach yw'r cwrs thematig a fydd yn cael ei ddysgu gan diwtor gwadd ar thema benodol.

Cyrsiau Rhithiol Prif Ffrwd

There is no results

Cyrsiau Preswyl Prif Ffrwd

There is no results

Cyrsiau Cymraeg Gwaith wedi eu cyllido yn llawn yn Nant Gwrtheyrn

*Nid yw'r cyrsiau hyn yn addas i ddysgwyr ar ddechrau eu taith iaith.

 

Cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith 'Defnyddio'

Cyrsiau pum niwrnod yw’r rhain a gynigir ar lefelau Sylfaen Uchel (Dechrau Defnyddio eich Cymraeg Gwaith), Canolradd, Uwch, Gloywi – Siarad a Gloywi – Ysgrifennu sy’n cael eu cyllido'n llawn ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio neu’n gwirfoddoli yng Nghymru. 

 

Cyrsiau Codi Hyder Cymraeg Gwaith

Rydym nawr yn cynnig cyrsiau Codi Hyder ar gyfer sectorau penodol. Mae’r cyrsiau hyn ar gyfer gweithwyr sy’n gallu siarad Cymraeg ar lefel Canolradd+ ond a hoffai fwy o ymarfer a chefnogaeth i fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg yn y gwaith. Bydd gweithdai gyda thiwtoriaid arbenigol a digon o gyfleoedd i fwynhau ymarfer siarad Cymraeg.

 

Cyrsiau i'r Sector Iechyd a Gofal yng Nghymru

Mae’r cyrsiau hyn wedi eu cyllido yn llawn ac yn benodol ar gyfer staff yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.  Mae'r ddarpariaeth yn amrywio o gyrsiau Mynediad i gyrsiau ar gyfer pobl sy’n gallu siarad lefel dda o Gymraeg (Sylfaen Uchel / Canolradd/Uwch a Gloywi) ond a hoffai fwy o ymarfer a chefnogaeth i fod yn hyderus wrth ddefnyddio eu Cymraeg yn y gwaith. Bydd gwersi gyda thiwtor arbenigol a digon o gyfleoedd i fwynhau ymarfer siarad Cymraeg. Bydd rhaglen o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg yn cefnogi’r dysgu, gan gynnwys sesiynau yoga, meddylgarwch, adloniant cerddorol gyda’r nos a theithiau tywys ar hyd yr arfordir.  Mae'r dyddiadau i'w gweld yn y tabl isod.

Cychwyn Gorffen Lefel Enw'r cwrs
20/07/26 24/07/26 Proficient Cwrs Gloywi - Siarad 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (Preswyl)
07/09/2026 11/09/2026 Foundation Cwrs Mynediad 2 / Sylfaen 1 i weithwyr o dramor o fewn y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
14/09/2026 18/09/2026 Advanced Cwrs Uwch - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
21/09/2026 25/09/2026 Foundation Cwrs Codi Hyder Sylfaen - Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
21/09/2026 25/09/2026 Proficient Cwrs Gloywi Ysgrifennu - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
28/09/2026 02/10/2026 Proficient Cwrs Gloywi Siarad - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
12/10/2026 16/10/2026 Advanced Cwrs Uwch - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
02/11/2026 06/11/2026 Proficient Cwrs Gloywi Siarad - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
09/11/2026 13/11/2026 Intermediate Cwrs Canolradd - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
09/11/2026 13/11/2026 Advanced Cwrs Uwch a Gloywi - Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
23/11/2026 27/11/2026 Advanced Cwrs Uwch - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
23/11/2026 27/11/2026 Proficient Cwrs Gloywi Ysgrifennu - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
30/11/2026 04/12/2026 Foundation Cwrs Sylfaen Uchel - 'Dechrau Defnyddio' dy Gymraeg Gwaith (PRESWYL)
07/12/2026 11/12/2026 Intermediate Cwrs Canolradd - 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith (PRESWYL)
25/01/2027 12/03/2027 Entry Cwrs Mynediad Estynedig ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol - dwy wythnos breswyl gyda gwersi ar lein rhyngddynt
15/02/2027 19/02/2027 Intermediate Cwrs Codi Hyder Canolradd+ ar gyfer y Sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Tutor in classroom

Cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru

Ydych chi'n gweithio mewn ysgol yng Nghymru?

Rydym yn cynnig cyrsiau iaith Gymraeg wedi'u hariannu'n llawn ar gyfer y Gweithlu Addysg yng Nghymru. Mae grant tuag at gostau athrawon cyflenwi ar gael hefyd.

 

Pwy sy'n gallu dilyn y cyrsiau?

- Athrawon cymwys mewn swydd neu sy’n chwilio am swydd

- Athrawon sydd newydd gymhwyso sy’n chwilio am swydd

- Athrawon/cynorthwywyr cyflenwi

- Unigolion sy’n hyfforddi i fod yn athro cymwys

- Cynorthwywyr Dysgu sydd mewn cyflogaeth

- Arweinyddion

- Athrawon ymgynghorol

- Staff nad ydynt yn dysgu

 

Cysylltwch â ni:

I gael rhagor o wybodaeth, ebostiwch addysg@nantgwrtheyrn.org  neu ffoniwch 01758 750 334 a dewiswch 3 ar gyfer yr Adran Addysg.

 

Cofrestrwch eich diddordeb:
Am fwy o fanylion ac i gofrestru, cwblhewch y ffurflen isod.

“Er fy mod ar ddechrau fy nhaith iaith, mae’r profiad o dreulio amser yn Nant Gwrtheyrn wedi fy ysbrydoli – does dim lle gwell i ddysgu Cymraeg! Mae’r lleoliad yn hardd ac yn berffaith i dreulio amser yn cael eich ymdrochi yn yr iaith heb ymyrraeth allanol.” Suzi Gray

“Mae dysgu dros Zoom yn brofiad gwahanol, rydych yn dod i adnabod pobl mewn ffordd wahanol. Wedi’r cyfan, rydych yn mynd yn syth i mewn i gartrefi pobl ddieithr led led y byd! Ond roedd o’n brofiad gwych a nes i wirioneddol fwynhau. Mi roedd o’n rhoi ffocws i fi am yr wythnos ac er nad oeddwn yn y Nant, mi ges i’r un teimlad am y Nant drwy’r cwrs rhithiol.” Janet Walker

Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn ddarpariaeth sy’n cymell dysgwyr i ddysgu Cymraeg a defnyddio eu medrau yn hynod lwyddiannus mewn amgylchedd dysgu gynhaliol a chwbl unigryw. Mae dysgwyr sy’n mynychu cyrsiau dwys ac yn lletya ar safle’r Nant yn cael profiad Cymreig rhagorol wrth i’r rhan fwyaf wneud cynnydd estynedig mewn cyfnod byr iawn. Dyma yw un o rinweddau mwyaf nodedig y Nant. Mae’r profiad hwn yn aml yn trawsnewid bywydau dysgwyr ac yn rhoi’r hyder iddynt barhau ar eu taith i ddysgu Cymraeg. Yn ogystal, mae’r rhan fwyaf o ddysgwyr sy’n dysgu ar gyrsiau rhithiol a Defnyddio Cymraeg Gwaith (DCG) ar draws y ddarpariaeth yn gwneud cynnydd cadarn. Estyn, Ionawr 2024

"Mae Nant Gwrtheyrn yn lle unigryw. Mae’n lle arbennig i ddysgu Cymraeg a chael cefnogaeth gan diwtoriaid gwych. Mae modd hefyd gwerthfawrogi harddwch naturiol yr ardal yno, a ffurfio cysylltiadau gwerthfawr, sy’n creu ymdeimlad o berthyn." - Kate Williams

  • Y manteision o ddysgu Cymraeg

    Picnic

    Trwy ddysgu’r iaith, sy’n cael ei siarad gan dros 700,000 o bobl ar draws y byd, rydych yn agor y drws i lawer o gyfleoedd a phrofiadau newydd. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn barod yn ymwybodol o’r manteision o fedru deall ac ynganu’r iaith sydd o’ch cwmpas. Bydd gennych ddwywaith y dewis o adloniant, gyda theledu, radio a gwefannau ar gael ar gyfer siaradwyr yr iaith, ac, yn y pen draw, ystod eang o lenyddiaeth sy’n ymestyn dros ganrifoedd.

    Mae pobl yn dysgu Cymraeg am lawer o resymau gwahanol: er mwyn gwaith, er mwyn y teulu, er mwyn teimlo’n rhan o’r gymuned, i enwi rhai. Ond beth bynnag ydy’ch rheswm chi dros ddysgu’r iaith, dylai’r broses fod yn un bleserus ac yn un sy’n rhoi boddhad.

  • Gwersi

    House

    Fel arfer, bydd y gwersi Cymraeg yn cael eu cynnal yn y Plas, cartref rheolwr y chwarel ers talwm ac yn y 'Sgubor. Mae’r ystafelloedd wedi eu dodrefnu â’r cyfarpar diweddaraf i’n galluogi i gynnig amrywiaeth o ddulliau dysgu, yn cynnwys dulliau traddodiadol. Os yw’r tywydd yn caniatáu, rydym yn ymdrechu i gynnal ychydig o weithgareddau y tu allan i’r dosbarth gan wneud y mwyaf o’r adnoddau naturiol sydd gennym o amgylch y safle

  • Llety

    Room

    Bydd myfyrwyr sy’n mynychu ein cyrsiau preswyl Cymraeg yn aros yn hen fythynnod y chwarelwyr sydd bellach wedi eu huwchraddio i safon 4* (Llety Grŵp - Croeso Cymru). Bydd pob myfyriwr yn aros mewn ystafell breifat en-suite.  Mae ein hystafelloedd wedi’i dodrefnu'n gyfforddus ac mae carthen draddodiadol Gymreig ar bob gwely. Mae gennym ystafelloedd hygyrch ar gais.

  • Eich amser rhydd

    Resteraunt

    Gall myfyrwyr ddefnyddio’r lolfa yn y Plas drwy gydol eu hamser yn y Nant. Mae’r lolfa yn ystafell gyfleus i astudio neu i ymlacio ynddi gyda’r nos. Bydd Caffi Meinir yn agored yn ystod eich amser yn y Nant a bydd y staff yno yn fwy na hapus i hybu eich defnydd o’r Gymraeg. Bydd cyfle i fyfyrwyr ymweld â’r arddangosfeydd treftadaeth a’r tŷ cyfnod tra maen nhw’n aros yn y Nant, a dysgu am hanes yr ardal unigryw hon.

     

    Bydd adloniant wedi ei drefnu ar gyfer y nos Fawrth ac ymweliad ag atyniad lleol ar y prynhawn Mercher.  Rydym yn annog ein myfyrwyr i ymweld â Thafarn y Fic ym mhentref Llithfaen ar y nos Iau er mwyn cael profiad o dafarn Gymreig a chael cyfle i sgwrsio gyda'r trigolion lleol.

  • Y cwrs gorau i chi

    Talking in class

    Rydym yn annog myfyrwyr i drafod eu hanghenion gyda thiwtor ymlaen llaw ac rydym yn anelu at gael pob myfyriwr ar y cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion personol.

    Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel rydym yn eich annog i gysylltu â’r Tim Addysg i drafod.  Ni fydd tiwtor ar gael bob amser gan y byddant yn dysgu, ond bydd aelod o staff y Swyddfa yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i’r tiwtor gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosib.

    Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.

    addysg@nantgwrtheyrn.org

  • Sut i archebu

    View

    Er mwyn cofrestru ar gwrs Prif Ffrwd:

    • Cliciwch ar y cwrs yr hoffech gofrestru arno.
    • Bydd y cwrs yn agor ar wefan Dysgu Cymraeg.
    • Os oes lle ar y cwrs byddwch yn gallu clicio ar y botwm gwyrdd 'Cofrestru' a dilyn y cyfarwyddiadau.
    • Os yw'r cwrs yn llawn, bydd botwm llwyd 'Mynegi Diddordeb' yn ymddangos.  Drwy glicio ar y botwm hwn a nodi eich manylion byddwch yn mynd ar y rhestr aros ar gyfer y cwrs.  Os fydd rhywun yn canslo, byddwn yn cynnig y lle i'r rhestr aros ar delerau cyntaf i'r felin.
    • Rydym yn eich annog i drefnu sgwrs gyda thiwtor cyn cofrestru os nad ydych yn sicr o'ch lefel.

     

    Cynlluniau Eraill:

    Er mwyn cofrestru ar gwrs 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith, cwrs Codi Hyder, cwrs ar gyfer y Sector Iechyd neu gwrs ar gyfer y Gweithlu Addysg bydd rhaid i chi gysylltu â ni yn uniongyrchol i drefnu sgwrs dros y ffôn er mwyn gwirio bod lefel y cwrs yn addas i chi cyn eich bod yn gallu cofrestru.  Wedi i ni gadarnhau eich lefel byddwn yn rhannu dolen gofrestru gyda chi er mwyn i chi allu cofrestru ar lein.

    NODER: Mae'n rhaid i’r Nant sicrhau bod lleiafswm o 4 dysgwr wedi cofrestru ar unrhyw gwrs er mwyn bwrw 'mlaen gyda'r cwrs a hynny er mwyn sicrhau y profiad gorau i bawb.

    Os oes rhaid i Nant Gwrtheyrn ganslo cwrs am unrhyw reswm, ymdrechir i roi gwybod i’r dysgwr bythefnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs ble mae hynny'n bosib. Dan yr amgylchiadau hyn bydd eich taliad yn cael ei ad-dalu neu mae modd i chi ddod ar gwrs arall o fewn 24 mis.

"Dwi wrth fy modd gyda’r cwrs Sylfaen ar-lein: tiwtor gwych, awyrgylch hamddenol, cyfranogwyr sy’n cymell, deunydd gwych, ymarferion difyr a chynydd amlwg. Cwrs delfrydol ar gyfer pobl sydd eisiau dysgu o bell. Fydda i nôl yn fuan ar gyfer y lefel nesaf!"

Rhestr Bostio Cyrsiau Prif Ffrwd

Ymunwch â'n rhestr bostio i dderbyn y newyddion diweddaraf a chynigion arbennig.