Newyddion

Newyddion Yr Ymddiriedolaeth

Newyddion Yr Ymddiriedolaeth

Yn ystod y pandemig, mae’r Ymddiriedolwyr wedi parhau i gyfarfod yn rheolaidd, gan fanteisio ar Zoom. Yn wir, mae’r patrwm arferol o gyfarfodydd chwarterol wedi’i gynyddu i bob yn ail fis er mwyn caniatáu craffu llawn ar y sefyllfa wrth i ganllawiau’r Llywodraeth newid. Mae ymddiriedolwyr unigol wedi parhau i ddarparu mewnbwn yn ystod yr amser hwn o ran goruchwyliaeth ariannol a chynllunio ar gyfer y dyfodol.

Gohiriwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2020 tan fis Hydref, oherwydd Covid. Yn ystod y cyfarfod, ymddeolodd Jeff Williams-Jones fel Ymddiriedolwr. Jeff oedd Cadeirydd y Bwrdd rhwng 2006 a 2018, cyfnod pan drawsnewidiwyd y cyfleusterau ar y safle ac, yn sgil hynny, ragolygon ariannol yr Ymddiriedolaeth. Mynegodd yr aelodau eu gwerthfawrogiad a’u diolch iddo am ei waith arbennig dros gyfnod mor estynedig. Cadarnhawyd penodiad dau Ymddiriedolwr newydd, Jo Iwan ac Ann Huws, gan y CCB. Roedd y ddau eisoes wedi gwneud cyfraniadau pwysig yn ystod eu cyfnodau fel arsylwyr.