Croeso i Nant Gwrtheyrn
Bydd Nant Gwrtheyrn bob amser yn lle sy’n dod â phobl ynghyd, trwy oleuo’r enaid a bod yn ei harddwch, ei threftadaeth a’r Gymraeg.
Ein nod yw cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg, darparu cyflogaeth leol ac ysbrydoli pobl i ddod at ei gilydd, gan ddarganfod cysylltiadau â’r iaith Gymraeg, byd natur a’r tymhorau a all siapio bywyd i’r dyfodol.

Gŵyl Fach y Nant
Gŵyl undydd o weithgareddau am ddim i bawb o bob oed ar y 14eg o Fehefin.
Dewch i fwynhau yn y Nant!
09:30: Taith gerdded gyda Myrddin ap Dafydd
10:30: Gweithdy Cerdd: CERDDAMDANI (sesiynau cerdd hwyliog i blant o bob oed)
10:30 Paned a sgwrs yng Nghaffi Meinir*
11:30: Sesiwn stori a chreu i blant gydag Anni Llŷn
12:00: Hanes y Nant yng nghwmni Huw Jones yn y Capel* (addas i siaradwyr rhugl a dysgwyr Uwch+)
12:00: Hanes y Nant yng nghwmni Martyn Croydon yn y ‘Sgubor (addas i ddysgwyr Sylfaen/Canolradd)*
12:00: Sesiwn blasu i ddechreuwyr yn y Plas*
13:30: Gig dros ginio gyda Gwilym Bowen Rhys
14:15: Gweithdy Cerdd: CERDDAMDANI (sesiynau cerdd hwyliog i blant o bob oed)
14:30: Gweithdy ysgrifennu creadigol i oedolion gydag Anni Llŷn
20:00: Gig Gwilym Bowen Rhys yn Nhafarn y Fic yn Llithfaen
*Sesiynau penodol i ddysgwyr ond croeso i chi ymuno yn y sesiynau eraill hefyd os ydych chi’n meddwl eu bod yn addas.
Eisiau aros gyda ni?
-
Dysgu ac aros
Ydych chi eisiau dysgu Cymraeg ac aros yn ein llety unigryw?
-
Gwyliau yn y Nant
Efallai yr hoffech chi aros gyda ni i fwynhau harddwch godidog y Nant
-
Priodasau
Yn chwilio am rywle i aros wrth ddathlu priodas yn Y Nant? Beth am ein llety moethus unigryw?
Arolwg Cwsmeriaid
Mae eich boddhad yn bwysig i ni, ac rydym yn ymdrechu'n barhaus i wella ein gwasanaethau i ddiwallu'ch anghenion yn well.
Mae eich adborth yn bwysig! Cliciwch ar y botwm isod i gychwyn yr arolwg: