Llety unigryw ar Benrhyn Llŷn
Yn wahanol i westai arferol, mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig llety cwbl unigryw. Profwch hud a lledrith y Nant wrth aros mewn lleoliad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn yn niwylliant a threftadaeth ein gwlad. Profwch fyd natur, daeareg, hanes a’r iaith Gymraeg i gyd o fewn y dyffryn arbennig hwn.
Y lleoliad perffaith ar gyfer ymweliadau addysgol, gwyliau gyda ffrindiau neu deulu, cynhadledd breswyl neu ddihangfa ramantus…
-
Gwely a Brecwast
Ymlaciwch yn ein hystafelloedd en-suite 4* (Llety Grŵp, Croeso Cymru).
Mae’r 24 o fythynnod teras a godwyd yn 1860 yn Nant Gwrtheyrn wedi cael eu trosi yn llety moethus unigryw.
-
Llety Grŵp
Gall amryw o grwpiau aros yma yn Nant Gwrtheyrn yn ein llety grŵp unigryw – o fod yn grwpiau addysgiadol, cerdded, diddordebau arbennig, priodasau, partïon, cynadleddau a grwpiau ar wyliau…
Ystafelloedd yn cysgu hyd at 5 o bobl ynghyd â defnydd o neuadd aml bwrpas.
-
Hunan arlwyo
Mwynhewch wyliau ymlaciol, gyda golygfeydd godidog o’r môr, ym mythynnod Nant Gwrtheyrn – Mae’r bythynnod o fewn pellter cerdded i draeth preifat a chyfleusterau caffi ar y safle. Gellir ymuno â Llwybr Arfordirol Cymru i’r ddau gyfeiriad o’r traeth, ac mae’r dafarn a’r siop agosaf filltir i ffwrdd ym mhentref Llithfaen.
Cystadleuaeth
Dyma eich cyfle i ennill gwyliau penwythnos i bedwar yn Nant Gwrthyrn. Byddwch yn aros yn un o’r stiwdios yn yr Ysgubor, sy’n cysgu hyd at 4 o westeion.
Yr oll sydd angen ei wneud yw clicio yma a llenwi’r holiadur sydd ynghlwm. Cofiwch adael eich cyfeiriad ebost er mwyn i ni allu cysylltu efo chi os mai chi fydd yn fuddugol.
Pob Lwc!
Telerau ac Amodau;
- Mae’r gystadleuaeth hon yn cael ei threfnu a’i hyrwyddo gan Nant Gwrtheyrn Nant Gwrtheyrn, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6NL. Dylid cyfeirio unhryw ymholiadau neu gwynion am y gystadleuaeth at marchnata@nantgwrtheyrn.org neu drwy ffonio 01758 750 334.
- Mae gan Nant Gwrtheyrn yr hawl i newid neu ddiwygio’r gystadleuaeth neu’r telerau yn ol ei disgresiwn.
- Bydd yr enillydd yn cael ei dewis ar y 30 Medi 2024. Bydd Nant Gwrtheyrn yn trafod dydiadau posib efo’r enillydd yn dilyn choeddi enillydd y gystadleuaeth.
- Bydd yr enillydd yn ennill dwy noson yn un o stwidios Nant Gwrtheyrn sydd yn cysgu pedwar mewn un gwely dwybl ac un gwely soffa.
- Dyddiad cau y gystadleuaeth hon yw’r 2il o Fedi 2024 am hanner nos. Ni fyddwn yn derbyn unrhyw geisiadau i’r gystadleuaeth hon wedi’r dyddiad cau.
- Byddwn yn cysylltu gyda’r enilydd dros ebost. Os na fyddwn yn gallu cael gafael ar yr enillydd o fewn 5 diwrnod byddwn yn dewis enillydd arall.
- Mae’r enillydd yn caniatau i Nant Gwrtheyrn ddefnyddio ei henw a llun mewn unrhyw ddeunydd cyhoeddusrwydd.
- Mae’r gystadleuaeth yn agored i unrhyw un dros 18 oed.
Safle
1. Y Neuadd
2. Trem y Mynydd
3. Trem y Môr
4. Tŷ Canol + Sgubor
5. Caffi Meinir
6. Cae Canol
7. Capel
8. Swyddfa