Cyrsiau Cymraeg yn Nant Gwrtheyrn
Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn ddarparwr sy’n cynnig cyrsiau preswyl ar safle unigryw hen bentref chwarel Nant Gwrtheyrn ar benrhyn Llŷn. Mae Nant Gwrtheyrn yn cynnig cyrsiau ar ddwy ffrwd ddysgu: y brif ffrwd sydd â chyrsiau ar lefelau Mynediad 1, Mynediad 2, Sylfaen 1. Sylfaen 2, Canolradd, Uwch 1, Uwch 2 a Gloywi; a’r ffrwd Cymraeg Gwaith sydd â chyrsiau ar lefelau Sylfaen, Canolradd, Uwch, Gloywi (Siarad) a Gloywi (Ysgrifennu).
Mae cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith wedi eu cyllido’n llawn gan Lywodraeth Cymru drwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r cyrsiau 'Defnyddio' ar gael i unigolion sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yng Nghymru. Mae modd hefyd archebu cwrs sectorol ar gyfer grŵp o weithwyr penodol. Nod y cyrsiau yma yw cynyddu defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle.
Cyrsiau
Mae’r cyrsiau yn rhoi cyfle i bobl ymarfer pob sgil ieithyddol – siarad, darllen, gwrando ac ysgrifennu – ond rhoddir pwyslais arbennig ar ddatblygu hyder i siarad yr iaith, drwy eich annog i fanteisio ar bob cyfle i ymarfer eich Cymraeg yn ystod eich cyfnod yn y Nant. Mae ein tiwtoriaid profiadol yn gallu addasu rhywfaint ar gynnwys bob cwrs yn unol ag anghenion y grŵp. Rydym yn rheoli maint y dosbarthiadau er mwyn medru cefnogi pob dysgwr yn ystod y cwrs. Mae rhestr o'r cyrsiau i'w gweld isod. Os hoffech drafod unrhyw agwedd o ddysgu Cymraeg yn y Nant mae croeso i chi gysylltu â ni am sgwrs.
Gallwch ddarllen ychydig am ddarpariaeth dysgu y Nant yn Adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Ionawr, 2024.
Rhaglen Gyrsiau 2024-25
Dyma gyfle gwych i ddysgu Cymraeg gyda ni, naill ai yn ein canolfan ym Mhen Llŷn, neu yng nghysur eich cartref eich hun. Dewiswch eich lefel a chofrestrwch.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol ac mae ffeiliau cwrs unigryw gyda ni. Mae’r cyrsiau hyn yn cefnogi'r cyrsiau cenedlaethol sy'n cael eu dysgu gan ddarparwyr prif ffrwd eraill. Mae'n ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill yr ydych yn eu gwneud. Mae dewis y cwrs cywir yn bwysig felly os nad ydych yn siwr o ba lefel i ddewis cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol. Bydd un o'n tiwtoriaid yn falch iawn o gynnig cyngor.
Byddwn yn rhannu dyddiadau cyrsiau Medi 2024 - Gorffennaf 2025 ar y dudalen hon yn ystod wythnos yr 22ain o Ebrill. Byddwch yn medru cofrestru ar y cyrsiau hynny o'r 7fed o Fai, 2024 - tan hynny, mi fydd y cyrsiau yn ymddangos yn llawn. Wrth i chi archebu lle ar gwrs, bydd gofyn i chi dalu yn y fan a'r lle. Mae'r Nant yn ymwybodol o'r argyfwng costau byw ac rydym yn awyddus i gefnogi pob unigolyn i ddod i'r Nant. Os yw'r polisi talu yn achosi gofid i chi cysylltwch â ni am sgwrs i drafod opsiynau talu. Os yw'r gwaith yn talu i chi ddod ar gwrs cysylltwch â ni i wneud trefniadau mor fuan â phosib.
Rydym yn disgwyl i'r llefydd lenwi yn sydyn, felly peidiwch ag oedi cyn cysylltu.
Mae polisi canslo Nant Gwrtheyrn i'w weld fan hyn.
Cyrsiau Rhithiol Prif Ffrwd
There is no results
Cyrsiau Preswyl Prif Ffrwd
There is no results
Cyrsiau 'Defnyddio' Cymraeg Gwaith
Cychwyn | Gorffen | Lefel | Enw'r cwrs |
---|---|---|---|
04/11/2024 | 08/11/2024 | Proficient | Gloywi - Ysgrifennu - Cwrs Preswyl |
11/11/2024 | 15/11/2024 | Intermediate | Cwrs Cyngor y Celfyddydau - Sector y Celfyddydau - Canolradd - Cwrs Preswyl |
18/11/2024 | 22/11/2024 | Foundation | Peilot Sylfaen - Dechrau Defnyddio dy Gymraeg Gwaith - Cwrs Preswyl |
25/11/2024 | 29/11/2024 | Proficient | Gloywi - Siarad - Cwrs Preswyl |
02/12/2024 | 06/12/2024 | Intermediate | Canolradd - Cwrs Preswyl |
09/12/2024 | 13/12/2024 | Advanced | Uwch - Cwrs Preswyl |
20/04/2025 | 24/01/2025 | Proficient | Gloywi - Siarad Cwrs Preswyl |
27/01/2025 | 31/01/2025 | Advanced | Uwch Cwrs Preswyl |
10/02/2025 | 14/02/2025 | Intermediate | Gloywi - Ysgrifennu Cwrs Preswyl |
17/02/2025 | 21/02/2025 | Intermediate | Canolradd Cwrs Preswyl |
17/03/2025 | 21/03/2025 | Advanced | Uwch Cwrs Preswyl |
10/03/2025 | 14/03/2025 | Intermediate | Cwrs Codi Hyder a Defnyddio dy Gymraeg - Sector Iechyd - Lefel Canolradd i fyny |
Ydych chi'n byw yng Ngwynedd neu ym Môn?
Manteisiwch ar ein cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn. Os ydych yn byw* yn lleol gallwch ddod ar gwrs a theithio i'r Nant bob dydd am bris gostyngedig. Y pris yw £166 am gwrs 5 niwrnod.
*Mae'r cynnig yma ar gyfer unigolion sydd â'u prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn. Os nad yw eich prif gartref yng Ngwynedd neu ym Môn y pris i deithio yn ddyddiol yw £339 am gwrs 5 niwrnod.
Cysylltwch gyda ni am i dderbyn côd i hawlio'r gostyngiad: addysg@nantgwrtheyrn.org
Cymraeg Gwaith
Mae gennyn ni gyrsiau dwys Cymraeg Gwaith (cyrsiau preswyl ac ar-lein) ar gael i ddysgwyr lefel Canolradd, Uwch a Hyfedredd yn 2023.
Mae’r cyrsiau wedi eu cyllido’n llawn!
-
Manteision o ddysgu Cymraeg...
Trwy ddysgu’r iaith, sy’n cael ei siarad gan dros 700,000 o bobl ar draws y byd, rydych yn agor y drws i lawer o gyfleoedd a phrofiadau newydd. Bydd y rhai ohonoch sydd wedi dechrau dysgu Cymraeg yn barod yn ymwybodol o’r manteision o fedru deall ac ynganu’r iaith sydd o’ch cwmpas. Bydd gennych ddwywaith y dewis o adloniant, gyda theledu, radio a gwefannau ar gael ar gyfer siaradwyr yr iaith, ac, yn y pen draw, ystod eang o lenyddiaeth sy’n ymestyn dros ganrifoedd.
Mae pobl yn dysgu Cymraeg am lawer o resymau gwahanol: er mwyn gwaith, er mwyn y teulu, er mwyn teimlo’n rhan o’r gymuned, i enwi rhai. Ond beth bynnag ydy’ch rheswm chi dros ddysgu’r iaith, dylai’r broses fod yn un bleserus ac yn un sy’n rhoi boddhad.
-
Gwersi
Fel arfer, bydd y gwersi Cymraeg yn cael eu cynnal yn y Plas, cartref rheolwr y chwarel ers talwm. Mae’r ystafelloedd wedi eu dodrefnu â’r cyfarpar diweddaraf i’n galluogi i gynnig amrywiaeth o ddulliau dysgu, yn cynnwys dulliau traddodiadol. Os yw’r tywydd yn caniatáu, rydym yn ymdrechu i gynnal ychydig o weithgareddau y tu allan i’r dosbarth gan wneud y mwyaf o’r adnoddau naturiol sydd gennym o amgylch y safle
-
Llety
Bydd myfyrwyr sy’n mynychu ein cyrsiau preswyl Cymraeg yn aros yn hen fythynnod y chwarelwyr sydd bellach wedi eu huwchraddio i safon llety grŵp 5*. Mae pob ystafell wedi’i dodrefnu gyda dodrefn derw wedi eu gwneud â llaw yng Nghymru a charthen draddodiadol Gymreig ar bob gwely. Mae gennym ystafelloedd sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn.
-
Eich amser rhydd...
Gall myfyrwyr ddefnyddio’r lolfa yn y Plas drwy gydol eu hamser yn y Nant. Mae’r lolfa yn ystafell gyfleus i astudio neu i ymlacio ynddi gyda’r nos. Bydd Caffi Meinir yn agored yn ystod eich amser yn y Nant a bydd y staff yno yn fwy na hapus i hybu eich defnydd o’r Gymraeg. Bydd cyfle i fyfyrwyr ymweld â’r arddangosfeydd treftadaeth a’r tŷ cyfnod tra maen nhw’n aros yn y Nant, a dysgu am hanes yr ardal unigryw hon.
-
Y cwrs gorau i chi...
Rydym yn annog myfyrwyr i drafod eu hanghenion gyda thiwtor ymlaen llaw ac rydym yn anelu at gael pob myfyriwr ar y cwrs sydd fwyaf addas ar gyfer ei anghenion personol:
Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel…
Awgrymwn eich bod yn cysylltu â’r Tim Addysg i drafod eich anghenion: addysg@nantgwrtheyrn.org
Ni fydd y tiwtor ar gael bob amser gan y bydd yn dysgu, ond bydd aelod o staff y Swyddfa yn cymryd eich manylion ac yn trefnu i’r tiwtor gysylltu â chi cyn gynted ag sy’n bosib.
Mae ein tiwtoriaid yn hapus bob amser i’ch helpu i ddewis y cwrs gorau ar gyfer eich anghenion chi.
-
Sut i archebu...
Gallwch archebu cwrs arlein.
NODER: Er mwyn rhoi’r profiad gorau posib i’r dysgwyr – Rhaid i’r Nant sicrhau bod lleiafswm o 6 dysgwr wedi cofrestru ar unrhyw gwrs cyn y bydd modd cadarnhau y bydd y cwrs yn cael ei gynnal. Os oes rhaid i Nant Gwrtheyrn ganslo cwrs am unrhyw reswm, rhoddir gwybod i’r dysgwr bythefnos cyn diwrnod cyntaf y cwrs. Dan yr amgylchiadau hyn bydd eich taliad yn cael ei ad-dalu neu mae modd i chi ddod ar gwrs arall o fewn 12 mis.