Yn 1970, symudodd y Meddyg Carl Clowes o`i swydd arbenigol yn Ysbyty Christie, Manceinion i redeg meddygfa Llanaelhaearn ar ei ben ei hun. Roedd ef a’i wraig Dorothi yn benderfynol o fagu eu plant yn siaradwyr Cymraeg. Ond yr hyn a ganfu oedd cymuned yn wynebu problemau gwirioneddol, a theimlodd y dylai rhywbeth gael ei wneud ynglŷn â’r sefyllfa. Roedd chwarel ithfaen gyfagos yn Nhrefor ar fin cau ac roedd Ysgol Llanaelhaearn hefyd dan fygythiad o gael ei chau. Roedd rhaid creu cyfleoedd cyflogaeth newydd yn yr ardal os oedd hi am oroesi.
Ers i Ddeddf gyntaf yr Iaith Gymraeg ddod i rym yn 1967 roedd galw cynyddol am weithwyr dwyieithog mewn sefydliadau cyhoeddus. Roedd y meddyg o`r farn bod angen canolfan breswyl fyddai’n agored drwy gydol y flwyddyn i gynnig cyrsiau Cymraeg i sicrhau hyn.
Wrth i’r ddau syniad asio gyda’i gilydd, ac er bod yr adeiladau yn adfeilion erbyn y 70au, penderfynwyd sefydlu canolfan bwrpasol yn y Nant a fyddai yn creu gwaith ar gyfer pobl leol ac yn rhoi hwb angenrheidiol i’r iaith Gymraeg.