Newyddion

Aelodau Newydd i'r Bwrdd

Nant Gwrtheyrn

Cynhaliwyd cyfarfod blynyddol cwmni Ymddiriedolaeth Nant Gwrtheyrn yn y Nant ddydd Sadwrn, yr 28ain o Fehefin.

Yn y cyfarfod, derbyniwyd ymddeoliad Ann Hughes, a fu’n aelod o’r Bwrdd ers 2020. Diolchodd y Cadeirydd iddi’n gynnes am ei chyfraniad arbennig o werthfawr a’i horiau lawer o waith gwirfoddol, wrth roi arweiniad ynglŷn â dylunio a chynllunio mewnol.

Bu tri aelod newydd yn mynychu cyfarfodydd y Bwrdd yn ddiweddar fel arsylwyr ac fe gymeradwyodd y cyfarfod cyffredinol eu penodi’n aelodau llawn o’r Bwrdd. Y tri yw Dafydd Evans, Aled Hughes a Mared Llywelyn. Ceir manylion amdanynt ar y ddolen ‘Pwy ‘di Pwy?

Estynwyd croeso cynnes iddynt ynghyd â diolch am eu parodrwydd i ymgymryd â’r cyfrifoldebau o fod yn ymddiriedolwyr yr elusen.

Ail-etholwyd y swyddogion presennol, sef Huw Jones (Cadeirydd), Garffild Lloyd Lewis (Ysgrifennydd ac Is-Gadeirydd) a Gwyn Jones (Trysorydd).