Newyddion

Agoriad Swyddogol Plas Heulwen

Plas Heulwen
Agoriad swyddogol Plas Heulwen a llwybrau cerdded Nant Gwrtheyrn
Ddoe, yn Nant Gwrtheyrn, cynhaliwyd agoriad swyddogol Plas Heulwen a llwybrau newydd y Nant gan Liz Saville Roberts AS. Roedd yn ddigwyddiad i nodi penllanw prosiect sylweddol sydd wedi trawsnewid tirlun y Nant dros y ddwy flynedd diwethaf. Daeth criw arbennig o staff, gweithwyr a chontractwyr y gwaith, aelodau Bwrdd y Nant, aelodau o’r gymuned leol, rhai o’n prif bartneriaid a hen gyfeillion at ei gilydd i ddathlu’r agoriad.
Cynhaliwyd y digwyddiad ym Mhlas Heulwen, strwythur pren trawiadol a adeiladwyd gan gwmni lleol Davies-Hughes a’i Feibion. Mae’r gofod newydd, unigryw hwn yn cynnig gofod amlbwrpas i’w ddefnyddio fel dosbarth awyr agored, llwyfan i ddigwyddiadau amrywiol, man cyfarfod ac yn lle i estyn croeso.
Mae’r adeilad wedi ei enwi er cof am Heulwen Richards o Fae Trearddur, Ynys Môn, un o gymwynaswyr mawr Nant Gwrtheyrn. Yn ystod cyfnod tyngedfennol yn hanes y ganolfan, cyfrannodd yn hael drwy roi ei chartref a’i heiddo i gefnogi’r freuddwyd a roddai gymaint o lawenydd a gobaith iddi. Arweiniwyd teyrnged iddi yn ystod y digwyddiad gan Edward Morus Jones, un a oedd yn ei hadnabod yn dda.
Clywyd hefyd gan Huw Jones, Cadeirydd Nant Gwrtheyrn, yn ogystal â Siwan Tomos, y Prif Weithredwr, a fu’n sôn am bwysigrwydd yr adeilad i gynllun y Nant i “ddatblygu gofodau dysgu o safon uchel… lle gall iaith a thirwedd weithio gyda’i gilydd i roi profiadau dysgu ysbrydoledig”. Adroddwyd cerdd arbennig i nodi'r digwyddiad gan y Prif Fardd Myrddin ap Dafydd. Byddwn yn rhannu'r gerdd dros y cyfnod nesaf. 
Roedd y diwrnod hefyd yn dathlu’r prosiect yn ehangach, sef cynllun uchelgeisiol i adfer y dirwedd drwy glirio’r coed conwydd a chreu coetir newydd o goed brodorol sy’n cyd-fynd yn well â’r amgylchedd lleol. Mae’r datblygiad hefyd yn cynnwys dau lwybr troed newydd i ymwelwyr. Mae un yn daith gerdded gylchol fer sydd wedi’i chynllunio i fod yn gwbl hygyrch.
Mae’r ail yn llwybr tua 1km o hyd sy’n ymestyn o’r Ganolfan i gyfeiriad maes parcio uchaf y Nant. Er bod rhai rhannau’n serth, mae meinciau newydd wedi eu lleoli ar hyd y llwybr yn cynnig mannau i orffwys ac i fwynhau’r olygfa. Dywedodd Siwan am y llwybrau: “Mae llwybr yn fwy na ffordd o fynd o A i B. Mae llwybrau’n cysylltu pobl â lle, ac â’i gilydd. Maen nhw’n datgelu straeon—straeon am y pentref, am y môr, am waith a chrefft, am natur, am ymfudo ac am ddychwelyd. Wrth agor llwybr, rydyn ni hefyd yn agor ffordd i ddysgu: i ddysgu’r iaith yn ei chyd-destun naturiol, i ddarganfod treftadaeth leol, ac i greu profiad ymweld sy’n gyfoethocach.”
Lansiwyd hefyd app arbennig y gall ymwelwyr ei ddefnyddio i ddysgu am Nant Gwrtheyrn. Dyma deithiau tywys digidol sy’n galluogi defnyddwyr i wrando ar wybodaeth am y dirwedd a’i hanes cyfoethog. Mae rhai o’r teithiau’n dilyn y llwybrau newydd ac eraill yn crwydro drwy’r pentref ei hun, ond mae modd hefyd cael mynediad i’r cynnwys o adref.
Diolchwn yn arbennig i Liz Saville Roberts am agor yr adeilad yn swyddogol ac am ei geiriau ysbrydoledig am y Nant a’i chyswllt cynnar â’r sefydliad ar ddechrau’r 80au.
Daeth rhan sylweddol o’r cyllid ar gyfer y prosiect hwn drwy Grant Buddsoddi Mewn Coetir (TWIG) Llywodraeth Cymru, ac rydym yn ddiolchgar iawn iddynt am eu cefnogaeth.