Ap Llwybrau Natur Nant Gwrtheyrn ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobrau Technoleg Cenedlaethol o Fri
Mae prosiect digidol arloesol a ddatblygwyd ar gyfer Nant Gwrtheyrn wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy brif wobr dechnoleg sydd yn cydnabod arloesedd, cynaliadwyedd a gwydnwch mewn dylunio digidol.
Mae Ap Llwybrau Natur Nant Gwrtheyrn, a grewyd gan Tinkr Creative yn y rownd derfynol yn y categoriau canlynol:
• Prosiect Digidol y Flwyddyn
• Menter Gwydnwch Digidol y Flwyddyn
Yn eu degfed blwyddyn, mae’r gwobrau hyn ymhlith y rhai mwyaf cystadleuol yn y sector technoleg. Mae cyrraedd y rhestr fer ochr yn ochr â chwmnïau mawr yn y diwydiant yn gyflawniad sylweddol i sefydliad bach.
Dull Gwahanol o Ymdrin â Seilwaith Digidol
Mae’r rhan fwyaf o apiau a gwefannau modern yn dibynnu ar seilwaith rhent gan ddarparwyr mawr fel Amazon Web Services neu Google Cloud sy’n aml yn costio cannoedd neu filoedd o bunnoedd y flwyddyn, gyda’r costau’n cynyddu wrth i ddefnydd dyfu.
Cymerodd Tinkr Creative ddull hollol wahanol.
Yn hytrach na dibynnu ar lwyfannau trydydd parti, datblygwyd seilwaith gweinydd pwrpasol gan ddefnyddio technolegau cod agored o safon broffesiynol, yn debyg i’r rhai a ddefnyddir gan sefydliadau mawr ledled y byd, ond wedi’u ffurfweddu a’u rheoli’n annibynnol.
Y canlyniad yw llwyfan cadarn sy’n costio llai na £10 y mis i’w redeg, tra’n darparu’r un lefel o berfformiad a dibynadwyedd â systemau a ddefnyddir gan gwmnïau technoleg sydd â chyllid sylweddol. Mae’r costau hyn yn aros yn isel waeth faint o bobl sy’n defnyddio’r ap.
Wedi’i Greu ar gyfer Lleoliad Anghysbell
Wedi’i lleoli ar waelod ffordd serth ym Menrhyn Llŷn, mae Nant Gwrtheyrn yn ardal weddol anghysbell gyda chysylltedd symudol cyfyngedig.
Cafodd yr ap ei dylunio’n benodol gyda hyn mewn golwg.
Mae’r ap yn gweithredu ar fodel “lleol yn gyntaf”, sy’n golygu pan fydd ymwelydd yn ei agor am y tro cyntaf, mae holl gynnwys y llwybr — gan gynnwys testun, delweddau, sain, a chyfieithiadau Cymraeg i Saesneg — yn cael ei lawrlwytho’n uniongyrchol i’w dyfais. O’r pwynt hwnnw ymlaen, mae’r ap yn gweithio’n llwyr all-lein, gyda diweddariadau’n digwydd yn awtomatig pan fydd cysylltiad ar gael.
Wrth i ymwelwyr archwilio’r llwybr, mae technoleg GPS yn datgloi pwyntiau o ddiddordeb mewn amser real, gan greu profiad rhyngweithiol.
Cefnogi Dysgu’r Gymraeg
Un o nodweddion allweddol yr ap yw ei ffocws ar hygyrchedd a dysgu iaith.
Mae’r testun Cymraeg ar hyd y llwybr yn gwbl ryngweithiol, gan ganiatáu i ddefnyddwyr dapio geiriau unigol i weld cyfieithiadau. Mae’r ap yn trin treigladau gramadegol Cymraeg yn ddeallus, gan ddarparu profiad dysgu mwy llyfn a greddfol.
Mae pob llwybr felly yn daith drwy’r tirwedd, yn ogystal â chyflwyniad ysgafn i’r Gymraeg.
Mae hygyrchedd hefyd wedi bod yn ganolog i’r prosiect, gyda chydrannau wedi’u dewis yn ofalus i sicrhau cydnawsedd cryf gyda darllenwyr sgrin a thechnolegau cynorthwyol.
Grymuso Staff drwy Dechnoleg Bwrpasol
Mae cynnwys yr ap yn cael ei reoli drwy system weinyddol bwrpasol, gan roi rheolaeth lawn i staff Nant Gwrtheyrn dros lwybrau, pwyntiau o ddiddordeb, delweddau, sain, a geirfa ddwyieithog heb fod angen mewnbwn datblygwr.
Mae hyn yn sicrhau y gall yr ap ddatblygu’n naturiol dros amser, gan aros yn berthnasol ac yn ymatebol i anghenion ymwelwyr.
Y tu ôl i’r llenni, mae system gydamseru fodern yn cadw’r cynnwys yn gyfredol ar draws dyfeisiadau, tra bod y llwyfan cyfan yn rhedeg ar seilwaith a reolir yn annibynnol yn Ewrop, gan sicrhau sofraniaeth data ac annibyniaeth weithredol hirdymor.
Carreg Milltir Sylweddol
Er bod y gystadleuaeth yn cynnwys rhai o’r cwmnïau technoleg mwyaf yn y byd, mae cyrraedd y rhestr fer yn garreg filltir bwysig i Nant Gwrtheyrn a Tinkr Creative.
Gyda’r nifer uchaf erioed o geisiadau eleni, mae’r gydnabyddiaeth hon yn tynnu sylw nid yn unig at ragoriaeth dechnegol, ond hefyd at werth atebion arloesol a chynaliadwy a ddatblygir y tu allan i’r diwydiant technoleg traddodiadol.