Newyddion
Cwrs pum niwrnod ‘Crwydro Llwybrau Llŷn’.
Bydd hwn yn gyfle i grwydro rhannau o Lwybr Arfordir Llŷn yng nghwmni arweinydd proffesiynol cyfrwng Cymraeg. Bydd amrywiaeth o lwybrau gyda’r arfordir yn ogystal â llwybrau mewndirol hefyd. Bydd llety, trafnidiaeth ar ddechrau a diwedd y teithiau a lluniaeth llawn wedi eu cynnwys yn y pris o £599. Sylwer fod angen lefel o ffitrwydd rhesymol er mwyn gallu cymryd rhan a bydd y teithiau yn amrywio o 4 – 9 milltir bob diwrnod.
- Cyfres o deithiau cerdded yn ardal Pen Llŷn
- Cyfle i grwydro yng nghwmni arweinydd proffesiynol cyfrwng Cymraeg
- Amrywiaeth o lwybrau môr a'r mewndir
- Cyfle i oedi yn rhai o fannau nodedig Llŷn
- Ymlacio yn heddwch Nant Gwrtheyrn ar ddiwedd bob dydd
- Llety, trafnidiaeth ar ddechrau a diwedd y teithiau a lluniaeth llawn yn y pris
- Teithiau tywys yn addas ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr
Cysylltwch gyda miriam@nantgwtheyrn.org am fwy o wybodaeth.