Newyddion

Cwrs Nant Gwrtheyrn yn codi hyder yn ystod y cyfnod clo

Cwrs Nant Gwrtheyrn yn codi hyder yn ystod y cyfnod clo

Mae Melanie Cargill yn gweithio i Menter a Busnes, ac fel miloedd o bobl ar draws y wlad wedi bod yn gweithio o adref ers dros flwyddyn. Roedd Mel yn poeni am effaith hyn ar ei Chymraeg gan iddi golli’r cyfle i ymarfer gyda chyd-weithwyr dros baned yn y swyddfa. Roedd hi’n poeni y byddai’n colli’r iaith a’r cynnydd roedd hi wedi ei wneud yn ei thaith iaith ers iddi ddechrau gweithio yng Nghymru sawl blwyddyn yn ôl.

Penderfynodd gofrestru ar gyfer cwrs rhithiol dwys lefel Uwch gyda Nant Gwrtheyrn, ac mae wedi talu ar ei ganfed. Dyma Mel yn egluro:

“Nes i wir fwynhau’r cwrs. Roedd hi’n neis cael siarad Cymraeg am bum diwrnod a ffocysu ar ddim byd ond y dysgu am y dyddiau hyn.

“Dwi wedi dysgu mwy o eirfa a dwi’n deall treigladau a phatrymau brawddegau yn well. Roedd Shân y tiwtor yn ffab ac oherwydd bod ni’n griw bach roedd y cwrs yn gallu cael ei deilwra i’n hanghenion unigol.

“Rwy’n ffodus iawn i weithio i Menter a Busnes, cwmni sydd wir yn gwerthfawrogi ac yn hyrwyddo’r Gymraeg. Mae’n rhywbeth sy’n greiddiol i’r busnes ac mae’r gefnogaeth rydw i wedi’i chael ganddyn nhw wedi bod yn wych.

“Fodd bynnag, yn y gwaith, dwi’n tueddu i droi i’r Saesneg pan dwi eisiau cael y neges drosodd achos mod i’n poeni mod i ddim yn glir yn y Gymraeg. Ond rŵan dwi wedi dechrau gwneud mwy o ymdrech. Nes i rannu diweddariad mewn cyfarfod i gyd yn Gymraeg am y tro cyntaf ychydig wythnosau nôl. Yn y gorffennol fyswn i wedi croesawu pobl yn y Gymraeg ac yna troi i’r Saesneg. Mae’r cwrs yn sicr wedi rhoi mwy o hyder i fi ddefnyddio’r Gymraeg.

“Roedd o’n gwrs arbennig, a dani fel criw yn barod wedi trefnu i gyfarfod yn rhithiol i sefydlu clwb darllen yn fuan. Ewch amdani, fyddwch chi ddim yn difaru!

I gofrestru ar gyfer cwrs rhithiol gyda Nant Gwrtheyrn, ewch i: https://nantgwrtheyrn.cymru/cyrsiaucymraeg/