Bydd cyrsiau ‘codi hyder’ Cymraeg newydd, sy’n cael eu darparu gan Nant Gwrtheyrn, ar gael unwaith eto yn y Gwanwyn a’r Haf, mewn dosbarthiadau rhithiol ar gyfer unrhyw berson sydd yn gweithio neu sy’n ddi-waith yng Nghymru.
Mae’r cyrsiau rhad ac am ddim yn rhan o gynllun ‘Cymraeg Gwaith’ y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, cynllun i gryfhau sgiliau Cymraeg mewn gweithleoedd ar hyd a lled Cymru.
Mae’r cyrsiau dwys yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol, dan arweiniad tiwtoriaid profiadol gydag elfennau hunan-astudio hefyd. Bydd cyrsiau ar gyfer gwahanol lefelau dysgu ar gael yn ystod mis Mai, Mehefin a Gorffennaf.
Meddai Rhodri Evans, Rheolwr Addysg Nant Gwrtheyrn: “Rydym yn falch iawn o fod yn cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol unwaith eto drwy ddarparu’r cyrsiau dwys ‘Defnyddio’ Cymraeg Gwaith yn y Gwanwyn a’r Haf.
“Bydd rhain yn gyrsiau rhithiol gyda phum sesiwn ddysgu yn cael eu darparu gan diwtoriaid profiadol dros gyfnod o bum niwrnod. Mae’r cyrsiau hefyd yn cynnwys elfennau hunan-astudio sydd wedi eu datblygu’n benodol ar gyfer y dull newydd hwn o ddysgu.
“Roedd yr ymateb i’r cyrsiau rhithiol yma yn gynharach yn y flwyddyn yn wych, ac mae’n dda gweld y cyrsiau’n dychwelyd o ganlyniad i’r galw amdanynt ac yn cael effaith bositif ar ddefnydd y Gymraeg yn y gweithle a thu hwnt.”
Ychwanegodd Dona Lewis, Dirprwy Brif Weithredwr a Chyfarwyddwr Cynllunio a Datblygu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: “Mae Cymraeg Gwaith yn cynnwys opsiynau ar gyfer dysgu, gwella, a defnyddio sgiliau Cymraeg at bwrpas gwaith ac yn cynnig cymorth a chefnogaeth i weithwyr ynghyd â’u cyflogwyr.
“Mae pandemig COVID-19 wedi newid ein byd. Roedd datblygu adnoddau Dysgu Cymraeg digidol yn barod yn flaenoriaeth i’r cynllun Cymraeg Gwaith, ac mae’r gwaith hwnnw wedi prysuro dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda chyfleoedd newydd i bobl fwynhau dysgu Cymraeg.
“Rydym ni wedi addasu ein gwasanaethau er mwyn rhoi’r dewis gorau posibl i gyflogwyr a’u gweithleoedd ac rydym ni’n falch o fod yn gweithio gyda Nant Gwrtheyrn unwaith eto.”
Os oes gennych chi ddiddordeb gwybod mwy am y cyrsiau, cysylltwch gydag adran Addysg Nant Gwrtheyrn: cymraeggwaith@nantgwrtheyrn.org
Mae’r cynllun Cymraeg Gwaith, sy’n cael eu gynnal gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i ddarparu gan ddarparwyr cyrsiau’r Ganolfan, gan gynnwys Nant Gwrtheyrn.