Newyddion

Cysylltiadau teulu yn ysbrydoli mam a mab i ddysgu gyda’i gilydd

Cysylltiadau teulu yn ysbrydoli mam a mab i ddysgu gyda’i gilydd

Kingston Upon Thames ar gyrion Llundain yw cartref teuluol y teulu Robinson – mam Bronwen a’i mab Tomos. Mae Tomos, sydd yn ei dridegau cynnar bellach yn byw yn Newcastle.

Mae Cymru a’r Gymraeg yn eu gwaed. Er i Bronwen gael ei geni yn Lloegr, roedd hi’n clywed Cymraeg yn y cartref a threuliodd gyfnod o’i phlentyndod yn byw yng Nghymru. Ond wedi iddi fynd i’r Brifysgol, ymgartrefodd yn Lloegr. Beth felly oedd ei hysbrydoliaeth ar ôl 40 mlynedd i ail-gydio yn y Gymraeg?

“Mi roedd Tomos wedi gweld cwrs wythnosol am ddim i ddechreuwyr yn cael ei hysbysebu. Dyma oedd y sbardun. Roedd o’n argymell Mathew (y tiwtor) a nes i weld bod cyrsiau wythnos ar gael gyda Mathew yn Nant Gwrtheyrn. Dwi wedi ymddeol erbyn hyn, felly mae gen i dipyn mwy o amser i wella fy Nghymraeg ac roedd posib gwneud y cwrs o adref.

“Dyma’n union beth oedd angen i fi ddechrau eto. Dwi hefyd wedi dechrau defnyddio Say Something in Welsh ac yn gobeithio gallu cynnal sgwrs gyfan yn y Gymraeg gyda theulu a ffrindiau sydd yn byw yng Nghymru yn y dyfodol.”

Doedd Tomos erioed wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad ar yr aelwyd ond roedd o’n ymwybodol iawn o’r iaith, oedd yn cael ei glywed ganddo ar ymweliadau i weld ei Daid a’i Nain.

“Dwi’n cofio eistedd yn angladd Taid a deall dim gair o Gymraeg. Pan welais y cwrs yn cael ei hysbysebu yn ystod y cyfnod clo roedd o’n gyfle rhy dda i’w golli. Nes i fwynhau yn fawr a dwi wedi symud ymlaen i’r lefel nesaf rŵan. Mae o’n rhywbeth dwi’n mwynhau gwneud pob nos Fercher.

“Dwi wedi dechrau anfon negeseuon testun i mam yn Gymraeg ac wedi newid iaith fy ffôn i Gymraeg – sydd weithiau yn beth da ac weithiau ddim!”

Mae cyrsiau’r Nant ar gael i chi o unrhyw le yn y byd. Ewch amdani: https://nantgwrtheyrn.cymru/cyrsiaucymraeg/