Newyddion
Ydych chi wedi meddwl am eich parti Dolig eto? Pam na ddewch chi draw yma i’r Nant i ddathlu eleni – bwyd gwych mewn lle hollol hudolus!
Byddwn yn cynnig y fwydlen yma i bartion ar ddau ddiwrnod penodol, sef dydd Sadwrn y 3ydd o Ragfyr a dydd Gwener 16eg o Ragfyr, felly os ydych yn fusnes bach lleol, neu grwp o ffrindiau, dewch draw i flasu’r wledd yma! Er mwyn cadw eich lle, gyrrwch ebost i arlwyo@nantgwrtheyrn.org