Blogiau

Dod i 'nabod y dysgwr

Gwenith Closs-Colgrove

Bu Gwenith Closs-Colgrove ar gwrs mynediad  efo ni yn mis Mehefin.

Ganwyd a magwyd Gwenith Clos-Colgrove ar fferm deulol Gymreig i’r de o Wymore yn Nebraska. Ar ddiwedd yr 1800au roedd Wymore yn gartref i lawer o fewnfudwyr o Gymru   Daeth hen daid Gwenith i Nebraska yn 1878.  Mynychai Gwenith Eglwys Bethel, Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd oedd i’r De o’r fferm.  Yn y dyddiau cynnar, cynhaliwyd  wasanaethau’r Eglwys trwy gyfrwng Gymraeg.  Tad Gwenith, Ellsworth Closs, a fu farw yn 2000 oedd y siaradwr Cymraeg olaf yn y gymuned.

Roedd cerddoriaeth wastad yn rhan o aelwyd Closs ac aeth ati i atusdio llais ym Mhrifysgol Kansas, yn ddiweddarach Coleg Doane ac yn fwy diweddar ym Mhrifysgol Nebraska-Lincoln.  Mae hi wedi bod yn ffodus i ganu yma yn y Deyrnas Unedig ac yn y Carnegie Hall yn Efrog Newydd.

Yn 2016 derbyniodd Ms Colgrove rôl Llywydd The Great Plains Welsh Heritage Project and Archive for Welsh  America.  Ers ei sefydlu tuag at ddiwedd 2000, gyda chymorth gwirfoddolwyr ymroddedig mae’r amgueddfa wedi tyfu’n aruthrol.  Mae’r archif yn gartef i’r unig gopi microfilm o Y Drych sydd yn dyddio yn ol i’r 1850au.  Mae yno hefyd lawer o arteffactau sydd wedi cael eu rhoi gan nifer o gymdeithasau ac unigolion o gefndir Cymreig.

Mae gwenith yn briod â Gary Colgrove ac mae ganddi ddau fab a chwech o wyrion a wyrionesau.  Ei nod yw sicrhau bod cenedlaethau’r dyfodol yn ymwybodol o’r etifeddiaeth Gymreig hyfryd yma, ac yn rhannu’r hanes â’r cenedlaethau nesaf.

Gofynom 5 cwestiwn i ddod i ‘nabod y dysgwr:

Beth wnaeth i chi fynd ati i ddysgu’r Gymraeg?  Roedd fy nhad yn siarad Cymraeg.

 Lle yw eich hoff le chi yng  Nghymru a pham? Nant Peris yw fy hoff le.  Mae Mam a Dad yn gorwedd yno.

Sut ydych chi’n ymarfer eich Cymraeg?  Dwi wedi defnyddio Duolingo ac yn ymarfer gyda fy ffrind.

Beth ydi eich hoff air Cymraeg?  Dwi’n hoffi Bendigedig yn ofadwy!

Sut brofiad oedd dysgu Cymraeg yn Y Nant? Breuddwyd, wedi bod eisiau mynd ers amser hir.